Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tir Halogedig

Mae egwyddor ‘Llygrwr yn Talu’ y Llywodraeth yn awgrymu y dylai’r rheini sy’n achosi halogiad ei lanhau.

Mae arweiniad y Llywodraeth yn cydnabod bod ‘tir y mae halogi wedi effeithio arno’ yn ystyriaeth gynllunio sylfaenol ac mai’r cyfnod datblygu yw’r amser mwyaf pragmatig a chost effeithiol i ddelio â’r broblem. Mae deddfwriaeth ac arweiniad cynllunio’n rhoi’r cyfrifoldeb ar berchnogion a datblygwyr i bennu graddau unrhyw halogi ar eu safle.

Dyletswydd yr adran Gynllunio yw sicrhau bod perchnogion a datblygwyr yn cynnal yr ymchwiliadau angenrheidiol a’r cynigion i ymdrin ag unrhyw halogi mewn ffordd gyfrifol ac effeithiol.

Mae Dogfen Ganllaw o’r enw Halogi Tir: Canllaw i Ddatblygwyr wedi’i pharatoi fel dogfen gyfair i ddatblygwyr a’u hymgynghorwyr a allai fod yn rhan o asesu a rheoli halogi tir.

Os oes angen camau adfer mae’n angenrheidiol bod y deunyddiau’n cael eu mewnforio i’r safle. Mae CBSMT wedi cyflwyno Arweiniad ar gyfer Profion Cemegol ar Ddeunyddiau wedi’u Mewnforio, sy’n ofynnol gan yr Awdurdod hwn. Mae’r Arweiniad hwn yn bennaf ar gyfer perchnogion eiddo, datblygwyr, ymgynghorwyr amgylcheddol, penseiri a thirfesurwyr y mae angen gwybodaeth arnynt i’w helpu i gyflwyno ceisiadau i CBSMT i gefnogi amodau cynllunio sy’n berthnasol i fewnforio pridd, cerrig neu ddeunyddiau tebyg i ddatblygiad i’w defnyddio mewn gardd, tirwedd neu beirianneg.

Mae Adran Diogelu’r Amgylchedd Adran Iechyd y Cyhoedd wedi cynnal astudiaeth bapur i nodi cymaint o safleoedd ‘y mae’n bosibl eu bod yn halogedig’ â phosib yn ei ardal ac i asesu a oes risg sylweddol ynghlwm wrth ddefnyddio’r safle, ac a oes llygredd cysylltiedig. Mae crynodeb gweithredol o Strategaeth Tir Halogedig y Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gael.

Os yw’r Awdurdod o’r farn fod perygl o achosi niwed sylweddol neu ei fod yn debygol y caiff dŵr rheoledig ei lygru, gellir cyflwyno Hysbysiad Adfer i’r un sy’n gyfrifol. Os na ellir dod o hyd i’r unigolyn hwn trosglwyddir y ddyletswydd i’r perchnogion neu’r meddianwyr.

Nid yw’r awdurdod ar hyn o bryd wedi cyhoeddi unrhyw safle’n ‘dir halogedig’ dan Adran 78(A)2 o Ran IIA Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Chwiliadau Tir Halogedig

Mae hwn yn wasanaeth lle mae ffi neu dâl.

Am wybodaeth ar ffioedd presennol a thaliadau gweler ein tudalen Ffioedd Iechyd Amgylcheddol a Thaliadau.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?