Ar-lein, Mae'n arbed amser
Sgorau hylendid bwyd
Mae’r Cynllun Sgorau Hylendid Bwyd yn eich helpu i ddewis ble i fwyta neu siopa am fwyd. Mae’r cynllun yn rhoi gwybodaeth i chi am safonau hylendid mewn bwytai, tafarndai, caffis, siopau prydau parod, gwestai, a lleoedd eraill rydych yn hoffi mynd iddyn nhw am fwyd, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.
Chwilio am sgorau hylendid bwyd
Beth yw ystyr y sgôr?
Cyflwynodd Deddf Sgorau Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 y Cynllun Sgorau Hylendid Bwyd gorfodol yng Nghymru.
Rhaid i adeiladau bwyd a gafodd eu harolygu ar ôl 27 Tachwedd 2013, ddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd yn glir ger pob mynedfa i’w hadeilad. Mae methu â gwneud hyn yn drosedd a allai arwain at ddirwy o £200 a/neu erlyniad.
Caiff adeiladau eu sgorio ar raddfa o 0 i 5 fel a ganlyn:
0 – Angen gwella ar frys
1 – Angen gwella’n fawr
2 – Angen gwella
3 – Boddhaol ar y cyfan
4 – Da
5 – Da iawn
Mae’r sgorau wedi’u seilio ar:
- Hylendid wrth drafod y bwyd
- Cyflwr yr adeilad
- Sut caiff diogelwch bwyd ei reoli
Nid yw’r sgôr a roddir i adeilad bwyd yn adlewyrchu ansawdd y bwyd na safon y gwasanaeth cwsmeriaid.
Os ydych yn dymuno adrodd ar fusnes nad yw’n dangos ei sticer sgôr hylendid bwyd yn amlwg, cysylltwch â ni ar y rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost isod.