Ar-lein, Mae'n arbed amser

Labelu bwyd a gwybodaeth am alergedd

Cynhelir arolygon ar adeiladau bwyd i archwilio labeli cynnyrch a phecynnau cynnyrch er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u gofynion cyfreithiol. Os nodir unrhyw fethiannau, ymdrinnir â’r mater ar unwaith â’r busnes bwyd dan sylw.

Ym mis Rhagfyr 2014 newidiodd y gyfraith ar labelu gwybodaeth alergedd. O’r dyddiad hwn ymlaen rhaid i bob darparydd bwyd ddarparu gwybodaeth ddigonol ar alergedd. Gellir gwneud hyn naill ai ar y pecynnu neu ag arwyddion yn dibynnu ar y bwyd rydych yn ei ddarparu.

Os oes gennych gwyn neu ymholiad ynghylch labelu unrhyw fwyd neu gyfansoddiad unrhyw fwyd, cysylltwch â ni ar y rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost ar waelod y dudalen hon.

Cysylltwch â Ni