Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cwn coll a chwn crwydr

Os ydych yn colli eich ci:

Ffoniwch ni ar 01685 725000 yn ystod oriau gwaith a byddwn yn cofrestru eich manylion a manylion eich ci. Byddwn yn croesgyfeirio'r manylion gyda chwn rydym wedi eu casglu eisoes. 

Dylech hefyd gysylltu gyda milfeddygon lleol, neu’r heddlu a gallwch ledaenu’r gair yn eich ardal leol.

Efallai yr hoffech hefyd rannu'r manylion am y ci coll ar wasanaethau cymunedol fel tudalen “Lost and found dogs Merthyr Tydfil” sy’n cael ei redeg yn wirfoddol ar wefannau cymdeithasol ac yn derbyn llawer o adroddiadau am gwn sydd ar goll, cwn mae pobl wedi dod o hyd iddynt a chwn mae pobl wedi eu gweld.

Os yw eich ci gennym ni:

Os yw eich ci gennym ni, bydd rhaid i chi dalu ffi i’w ryddhau. Mae’r ffi yn cynnwys ffi drin a dirwy statudol o £25. Gall bod ffi ychwanegol i’r Milfeddyg y bydd gofyn i chi ei dalu cyn bydd eich ci yn cael ei ddychwelyd i chi. Bydd angen i chi gysylltu gyda’r Cyngor ar 01685 725000 yn ystod oriau gwaith a thalu'r ffi cyn bydd eich ci yn cael ei dychwelyd atoch.

Y ffioedd presennol yw:

Nifer y dyddiau yn y cenel Ffi i’w dalu
Hyd at 24 awr ar o lei ddal

£85 + ffi’r Milfeddyg

2 ddydd £96 + ffi’r Milfeddyg

3 dydd

£106.50 + ffi’r Milfeddyg
4 dydd £117 + ffi’r Milfeddyg
5 dydd £127.50 + ffi’r Milfeddyg
6 dydd £138.00 + ffi’r Milfeddyg
7 dydd £148.50 + ffi’r Milfeddyg

Os ydych yn dod o hyd i gi yn crwydro:

Os ydych yn dod o hyd i gi yn crwydro, gallwch gysylltu gyda ni a gallwn ni roi cyngor i chi beth i’w wneud nesaf. Cysylltwch gyda ni dros y ffon ar 01685 725 000 yn ystod oriau gwaith.

Bydd cyfeirnod yn cael ei roi i chi ac mae’n bosib y byddwn yn gofyn i chi fynd a’r ci i’r cenel yn syth.

Ni ddylid dod a cwn i’r Swyddfa ddinesig gan nad oes cyfleusterau iddynt yma.

Oriau tu allan o oriau gwaith- Ffon 01685 725336

Efallai yr hoffech hefyd eisiau rhannu manylion y ci ar blatfform gwefan gymdeithasol fel “Lost and found dogs Merthyr Tyfil” (dolen tudalen FACEBOOK)  sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ac yn derbyn llawer o adroddiadau am gwn coll ayyb

Cwn yn crwydro a’r Gyfraith

Mae sefyllfa gyfreithiol cwn yn crwydro yn cael ei chynnwys yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddelio gyda cwn yn crwydro. Ar hyn o bryd mae’r ddyletswydd hwn yn cael ei gyflawni gan Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor.

Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am gwn sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, cysylltwch gyda’r RSPCA.

Cwn Peryglus

Mae gan yr Heddlu ddyletswydd gyfreithiol i ddelio gyda chwn sydd ta waeth am faint na math allan o reolaeth mewn man cyhoeddus, yn enwedig os yw’r perchennog yn hysbys. Os ydych angen i’r heddlu weithredu dylech gysylltu gyda nhw ar 101 neu ymholi yn eich gorsaf heddlu lleol.