Ar-lein, Mae'n arbed amser

Strategaeth Toiledau Merthyr Tudful

Mae toiledau at ddefnydd cyhoeddus yn bwysig i bawb sy’n “mynd i ffwrdd o adref”. Ond maen nhw, fodd bynnag, hyd yn oed yn fwy pwysig i grwpiau penodol oddi fewn i gymdeithas, yn cynnwys pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl ag anghenion penodol (yn cynnwys problemau meddygol penodol), menywod, plant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Gall y grwpiau hyn gael eu heffeithio’n anghymesur drwy ddarpariaeth wael, er enghraifft, deellir fod darpariaeth wael yn cael effaith negyddol penodol ar bobl hŷn, gan y bydd rhai yn llai tebygol o adael eu cartrefi heb gael yr hyder fod cyfleusterau digonol am fod ar gael iddynt. Gall hyn gyfrannu at gynnydd mewn arwahaniad cymdeithasol ac anactifedd, yn ogystal ag effeithio ar allu pobl i gynnal annibyniaeth ac urddas yn hwyrach yn eu bywydau.

Daeth Rhan 8 Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017: Darparu Toiledau i rym ar 31 Mai 2018 ac mae’n gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i baratoi a chyhoeddus strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal.

Mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol Cymru bellach i:

  • asesu’r angen am ddarpariaeth toiledau yn eu cymunedau
  • cynllunio i ddiwallu’r anghenion hynny
  • cynhyrchu strategaeth toiledau lleol; ac
  • adolygu’r strategaeth, diweddaru a hysbysebu adolygiadau

 

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?