Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwneud Cais Cynllunio
Rydym yn annog cyflwyno ceisiadau ar Porthol Ceisiadau Cynllunio Cymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatáu i ymgeiswyr a datblygwyr gwblhau ffurflen gais yn electronig ynghyd â cheisiadau a dogfennaeth i’r awdurdod cynllunio.
Fel arall, gallwch argraffu ffurflen gais ar y porthol a’i hanfon atom yn y post, ynghyd â’ch dogfennaeth.
Beth sydd angen eu cyflwyno gyda’r cais?
Gellir dod o hyd i ganllawiau manwl o’r wybodaeth ofynnol y dylid ei chyflwyno gyda’ch cais ar wefan Llywodraeth Cymru
Pan fydd caniatâd cynllunio yn cael ei ganiatáu, efallai y bydd amodau’n ofynnol. Byddai angen cyflwyno cais pellach alla’i ohirio’r gwaith rhag dechrau ar y safle. Rydym yn eich annog i sicrhau fod eich cais cychwynnol yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosib (er enghraifft, deunyddiau, manylion dreinio, ffiniau, lliniaru ecolegol, cynllun tirweddu, cynllun rheoli adeiladu, cynllun teithio ac ati.)
Nodwch y bydd ffioedd cynllunio yn codi o 24.08.2020. Gweler y ddolen, isod.