Ar-lein, Mae'n arbed amser

Strwythurau Peryglus

Dan Ddeddf Adeiladu 1984 mae gan yr awdurdod lleol y grymoedd i ymdrin ag adeiladau, strwythurau neu rannau o adeiladau neu strwythurau yr ystyrir eu bod yn beryglus.  Mae'r grymoedd hyn wedi eu dirprwyo i'r adran rheoli adeiladau.

Pan fydd yr adran rheoli adeiladau'n cael ei hysbysu o unrhyw strwythur peryglus neu pan fydd un o'i swyddogion yn dod ar draws un maent yn delio ag ef yn syth.

Os, yn dilyn archwiliad i asesu'r sefyllfa, yr ystyrir bod adeilad neu strwythur yn argyfyngus o beryglus, bydd pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i gysylltu â'r perchennog a byddant yn cael cyfle i dynnu'r strwythur peryglus eu hunain.  Os nad yw hyn yn bosib neu os na allwn ddod o hyd iddynt bydd yr awdurdod lleol yn gwneud y gwaith. Fe all hyn olygu gwneud yr ardal yn ddiogel neu gall olygu dymchwel rhan o'r strwythur neu'r holl beth.

Os fydd yr awdurdod lleol yn ymgymryd â'r gwaith mae ganddo hawl cyfreithiol i gael ad-daliad o'r holl gostau rhesymol gan y perchennog.

Dewis arall sydd ar gael os nad ystyrir bod y perygl yn un argyfyngus yw cael gorchymyn gan Lys yr Ynadon sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog wneud unrhyw waith sydd ei angen i gael gwared ar y perygl. Prif nod y ddeddfwriaeth yw cynnal amgylchedd diogel.

Cysylltwch â Ni