Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rheoli datblygiad

Mae adran Rheoli Datblygiad yr Adran Cynllunio Trefol yn penderfynu ar geisiadau cynllunio, yn gorfodi tramgwyddo'r rheolau cynllunio ac yn darparu cyngor i aelodau'r cyhoedd ar faterion fel yr angen am ganiatâd cynllunio ai peidio ar gyfer datblygiad.

Mae'r adran Rheoli Datblygiad hefyd yn cadw cofnodion o holl geisiadau cynllunio'r gorffennol ar ei chofrestr statudol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol ar unrhyw agwedd o Reoli Datblygiad cysylltwch â'r Tîm Rheoli Datblygiad.

Hawliau datblygu newydd i ddeiliaid tai i ddod i rym ar 30 Medi 2013

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno rheoliadau newydd a fydd yn newid y meini prawf a ddefnyddir i bennu a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o fath deiliad tŷ. Gosodir y rheoliadau hyn yn Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir)(Diwygio)(Cymru) 2013.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ni all yr adran Rheoli Datblygiad gynnig cyngor anffurfiol, ysgrifenedig ar yr angen am ganiatâd cynllunio ar gyfer ceisiadau deiliaid tai yn y dyfodol agos a bydd angen cais ffurfiol (Tystysgrif Cyfreithlondeb) ar gyfer pob penderfyniad.

Cysylltwch â Ni