Ar-lein, Mae'n arbed amser
Adeiladau Rhestredig
Adeiladau Rhestredig
Ar hyn o bryd mae tua 233 o adeiladau a strwythurau rhestredig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Maen nhw’n amrywio o draphontydd trawiadol i dai teras a strwythurau hyd yn oed llai fel pyst milltir neu flychau post.
Mae adeiladau rhestredig yn cael eu gwarchod trwy fod ar Restr Statudol o Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig. Mae’r adeiladau hyn yn cael eu hystyried fel rhai o bwys cenedlaethol ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw dan berchenogaeth breifat. Mae’r rhestr hon yn cael ei llunio gan Cadw - sefydliad sy’n rhan o Lywodraeth Cymru ac sy’n gyfrifol am yr amgylchedd adeiledig hanesyddol yng Nghymru.
Mae Adeiladau Rhestredig wedi eu dosbarthu i dair gradd; mae’r radd yn dynodi pwysigrwydd yr adeilad neu’r strwythur:
- Gradd I - Adeiladau o ddiddordeb neilltuol cenedlaethol. Mae 2% o’r Adeiladau Rhestredig yn rhai Gradd 1. Castell Cyfarthfa ydy’r unig adeilad rhestredig Gradd 1 yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd.
- Gradd II* - Adeiladau o bwys arbennig yn fwy nac o ddiddordeb arbennig yn unig; mae 4% o’r Adeiladau Rhestredig yn rhai Gradd II*.
- Gradd II – Adeiladau o ddiddordeb arbennig y mae pob cyfiawnhad dros ymdrech i’w diogelu nhw; mae 94% o Adeiladau Rhestredig yn rhai Gradd II.
Caniatâd Adeilad Rhestredig
Bydd angen caniatâd ar gyfer gwaith fydd yn newid golwg yr adeilad rhestredig; bydd hyn yn cynnwys gwaith allanol, mewnol, strwythurol ac addurnol. Bydd hefyd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig i addasu unrhyw wrthrych neu strwythur sydd wedi ei osod ar yr adeilad, yn ogystal ag unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn talar wreiddiol yr adeilad sydd yno ers Gorffennaf y 1af 1948.
Mae’r angen am gais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar wahân i unrhyw ofynion am Ganiatâd Cynllunio neu Ganiatâd Rheoliadau Adeiladu. Bydd angen cael y rhain ar wahân, os oes angen.
Mae gwneud unrhyw waith ar Adeilad Rhestredig heb ganiatâd perthnasol yn drosedd cyfreithiol a gallwch dderbyn dirwy o hyd at £20,000 a/neu hyd at 12 mis o garchar. Bydd y Cyngor yn dilyn camau gorfodi os gwneir unrhyw waith datblygu heb ei awdurdodi ar Adeiladau Rhestredig os gwêl taw hynny yw’r ffordd orau o weithredu.
Dylai perchenogion a datblygwyr gysylltu â Swyddog Dylunio, Treftadaeth a Chadwraeth y Cyngor cyn gwneud unrhyw waith ar Adeilad Rhestredig i sicrhau bod yr angen am Ganiatâd Adeilad Rhestredig wedi ei ystyried.
I weld yr holl asedau Treftadaeth yn y fwrdeistref, cliciwch ar ein Map Treftadaeth.
Adeiladau Rhestredig Lleol
Mae’r Rhestr Leol yn cynnwys adeiladau neu strwythurau yn y Fwrdeistref Sirol y mae’r cyhoedd a’r Cyngor yn eu hystyried fel rhan bwysig o dreftadaeth Merthyr Tudful oherwydd eu pwysigrwydd pensaernïol, hanesyddol neu archeolegol. Mae Adeiladau Rhestredig Lleol yn cyfrannu at dreftadaeth amgylcheddol a diwylliannol y Fwrdeistref Sirol. Bydd y Cyngor, trwy gynlluniau datblygu, yn ceisio gwarchod a gwella’r adeiladau pwysig hyn.
Os hoffech chi awgrymu adeilad i’w Restru’n Lleol, cysylltwch â Swyddog Dylunio, Treftadaeth a Chadwraeth y Cyngor.
I weld yr holl asedau Treftadaeth yn y fwrdeistref, cliciwch ar ein Map Treftadaeth.