Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rôl a chyfrifoldeb aelodau'r Pwyllgor Cynllunio wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

Atebolrwydd:

  • I'r Cyngor Llawn

Pwrpas a gweithgaredd y rôl:

Deall natur y pwyllgor cynllunio a gwneud penderfyniadau lled-farnwrol

  • Bod yn ymwybodol o natur lled-farnwrol gwneud penderfyniadau'r pwyllgor cynllunio
  • Bod â digon o wybodaeth dechnegol, gyfreithiol a gweithdrefnol i gyfrannu'n deg ac yn gywir at swyddogaeth y pwyllgor
  • Bod yn drylwyr ac yn wrthrychol wrth dderbyn ac ymateb i gyngor proffesiynol wrth gynnal cyfarfodydd ac achosion/ceisiadau unigol gerbron y pwyllgor

Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a gwneud penderfyniadau

  • Cymryd rhan yn effeithiol yng nghyfarfodydd y pwyllgor cynllunio, gan sicrhau bod ystyriaethau lleol ac argymhellion polisi yn cael eu cydbwyso i gyfrannu at wneud penderfyniadau effeithiol
  • Gwneud penderfyniadau gwybodus a chytbwys, o fewn cylch gorchwyl y pwyllgor, sy'n cyd-fynd â gofynion cyfreithiol, cyfansoddiadol a pholisi

Llywodraethu mewnol, safonau moesegol a pherthnasoedd

  • Sicrhau uniondeb penderfyniadau'r pwyllgor a'i rôl ei hun drwy gadw at y Cod Ymddygiad a gofynion cyfansoddiadol a chyfreithiol eraill
  • Hyrwyddo a chefnogi llywodraethu da gan y Cyngor
  • Deall rolau priodol aelodau, swyddogion a sefydliadau etc allanol sy'n gweithredu o fewn maes cyfrifoldeb y pwyllgor rheoleiddio

Gwerthoedd

Ymrwymo i werthoedd y Cyngor a'r gwerthoedd canlynol mewn swyddi cyhoeddus:

  • Tryloywder ac Ymagwedd Agored
  • Gonestrwydd ac uniondeb
  • Goddefgarwch a pharch
  • Cydraddoldeb a thegwch
  • Gwerthfawrogiad o wahaniaeth diwylliannol
  • Cynaliadwyedd