Ar-lein, Mae'n arbed amser

Chwiliadau Cynllunio a Rhestrau Wythnosol

Mae Mynediad i'r Cyhoedd yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i weld manylion am geisiadau cynllunio y mae'r Cyngor wedi'u cael. Mae Mynediad i'r Cyhoedd yn eich galluogi i:

  • Weld ffurflenni cais, lluniadau ac atodiadau a gyflwynwyd.
  • Tracio cynnydd cais
  • Gweld y Rhestr Wythnosol o geisiadau a gafwyd neu benderfyniadau a wnaed

Os ydych yn dymuno gweld dogfennau cynllunio gallwch ddefnyddio'r cyfleuster chwilio isod.

Sylwer: Efallai y bydd amhariad ar y system hon rhwng 9am ar 1 Mai tan 17:00 ar y 2 Mai, oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Os ydych yn cael problem yn gweld unrhyw ddogfennau, ceisiwch eto yn nes ymlaen. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Parhau i Chwiliad Mynediad Cyhoeddus

Canllawiau ar sut i weld cais cynllunio ar-lein

Nid yw'r holl wybodaeth ar gael ar-lein felly os na allwch weld yr hyn rydych yn dymuno'i weld gallwch hefyd fynd i Swyddfeydd y Cyngor, Uned 5, Parc Busnes Triongl, Pentrebach, Merthyr Tudful, CF48 4TQ, neu gysylltu â ni ar y manylion isod.

Rhestr Wythnosol

Yn ogystal i Fynediad Cyhoeddus, rydym yn cyhoeddi ceisiadau y pedwar Rhestr Wythnosol blaenorol mewn fformat PDF. Mae rhain ar gael isod.

Os oes angen gwybodaeth pellach gan gynnwys ceisiadau hŷn, mae pob ffeil ar gael I’w gweld gan ddefnyddio Mynediad Cyhoeddus.

 

Cysylltwch â Ni