Ar-lein, Mae'n arbed amser

Adroddiad Adolygu

Mabwysiadwyd  Cynllun Datblygu Lleol Amnewid Cyntaf Merthyr Tudful ym mis Ionawr 2020.  Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol, 2004 yn ei  gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol ymgymryd ag Adroddiadau Monitro Blynyddol (AMB) i asesu perfformiad a gweithrediad y Cynllun.  Yr AMB yw'r prif fecanwaith ar gyfer mesur cyflawniad a llwyddiant y Cynllun.  Ar ôl cynhyrchu pumed AMB y Cyngor yn 2024/2025, ystyriwyd ei bod yn briodol cynhyrchu Adroddiad Adolygu.

Mae'r Adroddiad Adolygu yn tynnu sylw at a yw'r CDLl a fabwysiadwyd yn gyfredol ac yn perfformio'n effeithiol.  O ystyried canfyddiadau AMB 2024/2025, ochr yn ochr â chyflwyno cyfres o bolisi, canllawiau a deddfwriaeth genedlaethol newydd, ers 2020; penderfynwyd y dylid cynnal adolygiad llawn o'r CDLl.

Ystyriwyd yr Adroddiad Adolygu gan y Cyngor Llawn yn eu cyfarfod ar 04 Mawrth 2026.  Penderfynodd y Cyngor gymeradwyo'r adroddiad a dechrau paratoi Ail Gynllun Datblygu Lleol Amnewid ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, sy'n cwmpasu'r cyfnod 2026-2041.  Gellir gweld yr Adroddiad Adolygu isod.

Adroddiadau 2026