Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gorchmynion Cadw Coed
Coed a Choetiroedd
O ystyried y modd y mae tirwedd y fwrdeistref sirol wedi cael ei chamdrin, does dim rhyfedd i rai pobl feddwl mai tirwedd heb ddim coed o gwbl sydd yma; fodd bynnag nid yw hyn yn wir. Er bod ardaloedd mawr yn y fwrdeistref sirol yn dal i ddangos creithiau'r chwyldro diwydiannol; mae ambell i lecyn llonydd yn dal yma, ardaloedd o goed sydd wedi ail dyfu'n naturion, coedwigaeth, parciau, gerddi a mannau agored cyhoeddus sy'n cynnwys amrywiaeth eang o goed.
Yn aml iawn, nid ydym yn gwerthfawrogi coed nes i ni ddarganfod eu bod dan fygythiad neu wedi eu colli'n llwyr. Mae gan yr awdurdod cynllunio lleol rymoedd i wneud Gorchmynion Cadw Coed dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Fe all yr Awdurdod wneud Gorchymyn Cadw Coed os yw'n ymddangos i fod yn 'fuddiol i amwynderau i ddarparu ar gyfer cadw coed neu goetiroedd yn yr ardal'.
Mae'r Fwrdeistref Sirol yn cynnwys 67 Gorchymyn Cadw Coed. Cafodd y cyntaf ei wneud ym 1946 a'r mwyaf diweddar yn 2008.
Mae pwysigrwydd coed mewn Ardaloedd Cadwraeth yn cael ei gydnabod yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy'n gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer coed mewn Ardaloedd Cadwraeth sydd ddim yn warchodedig eisoes gan Orchymyn Cadw Coed.