Ar-lein, Mae'n arbed amser
Adfywio Taf Bargoed
Mae Partneriaeth Adfywio Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful a Thaf Bargoed yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i adfywio’r cymunedau yng Nghwm Taf Bargoed.
Gwnaeth Strategaeth Adfywio Taf Bargoed 2006 ddynodi materion allweddol a meysydd ar gyfer datblygu a hyrwyddo datblygu economaidd a chymunedol y cwm.
Cafodd Partneriaeth Adfywio Taf Bargoed ei sefydlu i ddatblygu’r cynllun gweithredu. Mae’r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Taf Bargoed, Ymddiriedolaeth Datblygu Taf Bargoed, rhanddeiliaid allweddol a grwpiau cymunedol, Llywodraeth Cymru a CBSMT.
Rhaglen Adfywio Taf Bargoed Rydym wedi sicrhau arian drwy Gronfeydd Cydgyfeirio’r UE a rhaglen Blaenau’r Cymoedd Llywodraeth Cymru i sicrhau arian ar gyfer y prosiectau canlynol:
- Ardal Gadwraeth Cwm Felin ym Medlinog
- Canol Tref Treharris
- Y Stryd Fawr Trelewis
- Porth Trelewis a Phorth Treharris
Gellir gweld cynlluniau cychwynnol Canol Tref Treharris o dan Astudiaeth Gwella Canol Tref Treharris ar ochr dde’r dudalen hon.
Cafwyd gwelliannau i Bont Squire a fydd yn ehangu ei fywyd am 120 mlynedd yn hirach. Rydym ni hefyd wedi gwella’r fynedfa i Navigation Close a Ffordd Caerdydd drwy ychwanegu ffens newydd yn is-orsaf BT. Mae Pyrth Trelewis a Threharris ill dwy wedi eu gwella ac mae Stryd Fawr Trelewis wedi ei chwblhau bellach.
Mae Cynllun Gwella Adeiladau Treharris wedi dechrau ac mae busnesau’n cyflwyno eu henwau ar hyn o bryd.
Newid Tirluniau Cymunedau: mae prosiect Stori Taf Bargoed wedi creu tair swydd newydd. Roedd yn ariannu prosiect peilot i ddatblygu chwarae anffurfiol a chynnwys plant yn fwy yn yr hyn sy’n digwydd yn y Parc. Caiff y rhaglen ei hariannu gan Gronfa Fawr y Loteri a rhaglen Pobl yn Gyntaf.
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr bostio’r ymgynghoriad ar gyfer prosiectau Taf Bargoed yna e-bostiwch eich manylion atom i’r cyfeiriad e-bost isod neu ymunwch â thudalennau Twitter a Facebook CBSMT.
Am wybodaeth bellach gweler y diweddaraf o dan adran ein Dolenni Dogfen ar y dudalen hon.