Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal
Mae ein Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal yma i gefnogi plant a phobl ifanc sydd, am wahanol resymau yn methu byw gyda'u rhieni geni. Rydyn ni yma i'ch helpu i deimlo'n ddiogel, gwrando arnoch, a'ch cefnogi i gyflawni'ch nodau a byw eich bywyd gorau.
Weithiau, mae pethau'n digwydd sy'n golygu na allwch fyw gartref. Nid eich bai chi yw hynny. Pan fydd hyn yn digwydd, rydych chi'n dod yn "blentyn sy'n derbyn gofal" – ac mae hynny'n golygu eich bod chi wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed a'ch bod chi'n cael yr help sydd ei angen arnoch.
Rydym yn gwybod y gall cael lle diogel a gofalgar i fyw wneud gwahaniaeth mawr. Mae’n tîm yn gweithio'n agos gydag aelodau o'r teulu, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eraill i'ch helpu i deimlo'n ddiogel, yn hapus ac yn cael eich cefnogi. Rydyn ni eisiau i chi deimlo'n hyderus am eich dyfodol.
Os ydych chi'n derbyn gofal, bydd gennych eich gweithiwr cymdeithasol eich hun, maen nhw yno i chi – i wrando, cefnogi ac i wneud yn siŵr bod eich cynllun gofal wedi'i greu o'ch cwmpas. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi yn rheolaidd, yn dod i'ch adnabod ac yn eich helpu i ddeall beth sy'n digwydd a beth allai ddod nesaf. Os oes angen help ychwanegol arnoch, byddwn yn gweithio gyda phobl a gwasanaethau eraill i wneud yn siŵr eich bod chi'n ei gael.
Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o enedigaeth hyd at 16 oed. Ein nod yw eich cadw'n ddiogel, eich helpu i dyfu a gwneud yn siŵr bod penderfyniadau'n cael eu gwneud gyda'ch buddiannau gorau mewn golwg.