Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pobl ifanc sy'n byw gyda rhieni/gofalwyr sy'n derbyn gofal a chymorth

Beth yw asesiad ar gyfer gofal a chymorth?

Weithiau mae angen cymorth ar ein rhieni/gofalwyr i ofalu amdanoch chi. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â chi a'ch teulu i sicrhau eich bod yn cael eich cadw'n ddiogel ac yn derbyn gofal da.

Byddwn eisiau gwybod beth rydych chi/eich teulu yn ei feddwl sy'n bwysig a beth hoffech ei newid (os rhywbeth). Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod eich anghenion addysg ac iechyd yn cael eu gofalu'n dda.

Beth yw cynllun Gofal a Chymorth?

Os yw'n addas, byddwn yn eich helpu chi a'ch teulu gyda chynllun Gofal a Chymorth sy'n dweud sut y byddwch chi'n derbyn cymorth i wneud yn siŵr eich bod chi'n ddiogel, yn iach ac yn hapus.

Pwy allai fod yn rhan o'r cynllun hwnnw?

Dylech chi / eich teulu fod yn rhan o ddatblygu'r cynllun a dylai'r hyn sy'n bwysig i chi fod yn rhan fawr ohono.

Mae eraill sy'n debygol o fod yn rhan o ddatblygu'r cynllun yn cynnwys athrawon ac ymwelwyr iechyd sy'n ymwneud â'ch bywyd. Mae'r math o gefnogaeth a allai fod ar y cynllun yn cynnwys eich cefnogi gyda trefniadau dydd i ddydd, cefnogaeth gyda'r ysgol a'r gefnogaeth y gallai fod ei angen arnoch.