Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hyb Derbyn Asesu a Diogelu Amlasiantaeth

Y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth

Mae'r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth (MASH yw’r talfyriad Saesneg) yn cynnwys nifer o weithwyr proffesiynol, megis Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Oedolion, yr Heddlu, Iechyd, Profiannaeth ac Addysg.

Ei rôl o fewn yr adran Gwasanaethau Plant o fewn y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth, yw ystyried yr holl atgyfeiriadau diogelu a dderbynnir o nifer o wahanol ffynonellau. Bydd y tîm wedyn yn casglu gwybodaeth gan asiantaethau megis ysgolion, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu, yr Heddlu a chofnodion blaenorol gan Wasanaethau Plant a bydd yr Uwch Weithiwr Cymdeithasol yn ystyried a yw plentyn yn profi niwed neu mewn perygl o niwed. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd plant a phobl ifainc yn profi niwed ac felly nid oes angen Gweithiwr Cymdeithasol o Wasanaethau Plant arnynt, ond efallai y bydd angen lefel llai dwys o wasanaeth fel Cymorth Ieuenctid neu Gymorth Rhianta felly bydd y teuluoedd yn cael eu cyfeirio at y Ganolfan Cymorth Cynnar.

Os yw'r Uwch Weithiwr Cymdeithasol yn credu bod y wybodaeth yn dangos bod y plentyn yn profi niwed neu ei fod mewn perygl o brofi niwed, bydd trafodaeth cyfarfod strategaeth yn cael ei gynnal gyda'r asiantaethau ehangach. Bydd y drafodaeth hon yn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau ar unwaith i sicrhau bod plentyn yn ddiogel ac yn ystyried pa gamau i'w cymryd nesaf.

Os ystyrir bod angen asesiad gan y Gwasanaethau Plant, bydd hwn yn cael ei gynnal gan Weithiwr Cymdeithasol neu Weithiwr Cymorth o fewn y tîm Derbyn ac Asesu Cynnar.

Tîm Derbyn ac Asesu Cynnar

Mae'r Tîm Derbyn ac Asesu Cynnar yn darparu asesiadau a gwasaneth cyfeirio er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn derbyn y lefel gywir o gefnogaeth. Fel rhan o'r asesiad, byddwn yn cwrdd â phlant/pobl ifainc a'u teuluoedd i archwilio eu hamgylchiadau personol. Bydd hwn yn cynnwys ymweld â nhw yn eu cartrefi, ysgolion ac o fewn y gymuned. Er mwyn llywio'r asesiad, byddwn hefyd yn siarad â gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'r teulu.

Pan nodir anghenion sy'n gofyn am gynnwys gwasanaethau statudol, datblygir cynllun gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar y cyd â phlant/pobl ifainc a'u teuluoedd. Yn ystod y cam hwn bydd y plant/pobl ifainc wedyn yn trosglwyddo i dîm tymor hwy o fewn Gwasanaethau Plant ar gyfer gweithredu'r cynllun, ac er mwyn i'r canlyniadau a nodwyd gael eu cyflawni. Os nad yw'r asesiad yn nodi rôl barhaus ar gyfer Gwasanaethau Plant, byddwn yn archwilio’r gwasanaethau cymorth ehangach ac yn cynnig atgyfeiriad i'r Ganolfan Cymorth Cynnar lle bydd cymorth ataliol yn cael ei gynnig lle bo angen.