Ar-lein, Mae'n arbed amser
Beth yw’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd?
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn wasanaeth lleol am ddim a ddarperir i deuluoedd, gofalwyr a phobl ifanc ym Merthyr Tudful. Mae wedi'i gynllunio i fod yn bwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sydd angen gwybodaeth neu gyngor am fywyd teuluol a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â phlant.
Pwrpas y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Nod y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yw cefnogi teuluoedd drwy ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch:
- Opsiynau gofal plant (e.e., meithrinfeydd, gofal plant, clybiau gwyliau).
- Help gyda chostau gofal plant.
- Gwasanaethau cymorth i deuluoedd.
- Gweithgareddau i blant a phobl ifanc.
- Gwybodaeth ac arweiniad gyda bod yn rhiant
Ar gyfer pwy mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd?
Mae ‘r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar gael i:
- Rhieni a gofalwyr.
- Teuluoedd â phlant 0–19 oed (hyd at 25 oed ar gyfer y rhai ag anghenion ychwanegol).
- Gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau sy'n chwilio am wybodaeth ynghylch gwasanaethau cymorth.
Pa gefnogaeth mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn ei ddarparu?
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig gwybodaeth ynghylch, ac yn eich cyfeirio at, y canolynol:
- Gwasanaethau gofal plant (meithrinfeydd, gofal cyn-ysgol, gofal plant).
- Gweithgareddau ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau.
- Gwasanaethau cymorth teulu ac opsiynau cymorth cynnar.
- Cymorth a chyngor ynghylch bod yn rhiant.
- Dewisiadau cymorth arbenigol, gan gynnwys gwasanaethau anabledd a gweithgareddau chwarae.
Sut i gael mynediad at y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Gall teuluoedd gysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd er mwyn cael gafael ar wybodaeth a chymorth wedi'i deilwra trwy:
- Ffonio 01685 727500.
- E-bostio FIS@merthyr.gov.uk
- Ymweld â gwefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am wasanaethau gofal plant a theuluoedd lleol y gellir eu chwilio. Hafan | Merthyr FIS
Gwasanaethau ychwanegol sy'n gysylltiedig â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd yn darparu arwyddion i wasanaethau teuluol lleol eraill, gan gynnwys:
- Hwb Cymorth Cynnar – ar gyfer cymorth cydgysylltiedig ynghylch addysg, tai, iechyd, magu plant a mwy.
- Grwpiau sy’n ymwneud â bod yn rhieni ac adnoddau gwybodaeth.
- Gwybodaeth am raglenni cymorth cenedlaethol Llywodraeth Cymru.