Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sut i riportio plentyn/person ifanc y credwch sydd mewn perygl o gael ei gam-drin neu’i esgeuluso neu sydd eisoes yn profi hynny

Cadw Plant yn Ddiogel

Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch neu les plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed, mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith. Os yw’r plentyn/person ifanc yn cael ei niweidio ar hyn o bryd, mae angen i chi ffonio’r Heddlu ar 999.

Os yw’r sefyllfa’n llai argyfyngus ond eich bod yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael ei niweidio, neu’n poeni ei fod yn cael ei frifo’n gorfforol, neu’n teimlo nad yw’r gofal y mae’n ei gael yn ddigonol i’w gadw’n ddiogel, mae angen ichi gysylltu â’r Gwasanaethau Plant ar 01685 725000.

Os ydych yn aelod o’r cyhoedd, gallwch barhau’n ddienw. Nid oes gan weithwyr proffesiynol yr hawl i barhau’n ddienw, ac o dan y gyfraith mae ganddynt ddyletswydd i adrodd am unrhyw bryderon sydd ganddynt am ddiogelwch neu les plentyn neu berson ifanc.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch riportio’ch pryderon, peidiwch â meddwl “Beth os ydw i’n anghywir?”, yn hytrach, meddyliwch “Beth os ydw i’n iawn?”.

Gwasanaethau Plant Merthyr Tudful – rhif ffôn: 01685 725000

Ar agor: 8.30am – 5.00pm (dydd Llun i ddydd Iau), 8.30am – 4.30pm (dydd Gwener)

Tîm Dyletswydd Argyfwng: 01443 743665

(5.00pm – 8.30am dydd Llun i ddydd Iau, 4.30pm – 8.30am dydd Gwener i ddydd Llun

Poeni am eich plentyn?

Ydych chi’n poeni am eich plentyn, neu a ydych chi’n teimlo y gallai fod angen cymorth ar eich teulu?

Os ydych chi’n pryderu am eich plentyn neu’n credu bod angen rhywfaint o gymorth arnoch fel teulu, cysylltwch â’r Hyb Cymorth Cynnar (gweler y ddolen ar dudalen gyntaf y wefan hon). Byddwn yn gallu dod o hyd i’r gwasanaeth iawn i chi a’ch teulu ac fel arfer, bydd y gwasanaeth wedi’i seilio yn eich cymuned eich hun.

Weithiau, mae angen ychydig mwy o help ar deuluoedd. Os felly, efallai y byddwn ni’n  awgrymu cael Tîm o Amgylch eich Teulu i’ch cefnogi. Gallai’r Tîm hwn gynnwys pobl o’r ysgol, y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth ieuenctid ac unrhyw wasanaeth arall y teimlwch sydd ei angen arnoch. Byddwn ni’n gofyn i chi nodi’r cymorth y tybiwch sydd ei angen arnoch, ac yna byddwn yn ysgrifennu hynny mewn cynllun y bydd pawb yn gweithio arno.

Os oes pryderon sylweddol am ddiogelwch neu les eich plentyn, bydd Gweithiwr Cymdeithasol o’r Gwasanaethau Plant yn cwrdd â chi a’ch teulu i geisio deall mwy am yr hyn sy’n digwydd, y cymorth y gallai fod ei angen arnoch, yr hyn ydych yn poeni amdano, a’r hyn ydych eisiau ei wella. Byddant yn ysgrifennu hyn oll mewn asesiad a byddwch chi’n cael copi ohono.

Fel arfer, bydd yr asesiad yn dweud mai gwasanaethau eraill yw’r rhai cywir i chi a’ch teulu, a byddem yn siarad â chi am y rhain i weld a ydych am gael y cymorth hwnnw.

Mae’n bosibl y bydd yr asesiad yn dweud bod angen ichi gael cymorth gan y Gwasanaethau Plant, a byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun ar gyfer y ffordd y byddwn ni ac asiantaethau eraill yn eich cefnogi chi a’ch teulu. Gelwir hyn yn Gynllun Gofal a Chymorth.

Weithiau, bydd asiantaethau’n bryderus iawn am ddiogelwch a lles plant a bydd Cynhadledd Amddiffyn Plant yn cael ei threfnu. Mae hwn yn gyfarfod o weithwyr proffesiynol a theuluoedd a chyda’n gilydd, rydyn ni’n meddwl am y ffyrdd gorau o gadw’r plant yn ddiogel. Os bydd gweithwyr proffesiynol yn cytuno bod angen ychwanegu enw plentyn at y Gofrestr Amddiffyn Plant, yna byddwn yn datblygu cynllun gyda theuluoedd a gwasanaethau eraill i gadw’r plant yn ddiogel. Gelwir y cynllun hwn yn Gynllun Amddiffyn Gofal a Chymorth.

Ar adegau prin iawn, rhaid i’r Gwasanaethau Plant gymryd camau ar unwaith i sicrhau bod plant yn ddiogel. Gall hyn olygu gwneud cais i’r Llys am orchymyn i gadw’r plant yn ddiogel.

Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y mae Gweithwyr Cymdeithasol yn ei wneud a’r ffordd y mae Gwasanaethau Plant yn gweithio ar y wefan hon.

Bwrdd Diogelu

Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn grŵp o uwch reolwyr yr Heddlu, y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaeth Addysg, y Gwasanaeth Iechyd a’r Sector Gwirfoddol, a’u cyfrifoldeb yw sicrhau bod plant sy’n byw ym Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf yn cael eu diogelu rhag niwed.

Mae gan y Bwrdd wefan sy’n cynnwys gwybodaeth i rieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i Gwefan Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg