Diogelu plant a phobl ifanc rhag niwed a chefnogi teuluoedd
Mae diogelu plant a phobl ifanc rhag niwed wrth galon y Gwasanaethau Plant. Mae ein dulliau gweithredu’n cadw plant, pobl ifanc a’u teuluoedd wrth wraidd yr hyn a wnawn. Credwn fod perthnasoedd cryf, agored a gonest rhwng ymarferwyr a’n cymuned yn arf pwerus o gefnogaeth. Rydyn ni’n cefnogi pobl, nid ar eu pen eu hunain, ond yng nghyd-destun eu system a’u rhwydwaith teuluol ehangach. Cefnogir eiriolaeth i blant, pobl ifanc a’u rhieni gan y Gwasanaeth. Mae ein Cynadleddau Grŵp Teulu yn darparu amgylchedd diogel i deuluoedd ddod o hyd i’w hatebion eu hunain, gan ein bod yn parchu bod teuluoedd yn arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain.
Mae Gwasanaethau Plant Merthyr Tudful yn aelodau o Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg. Os hoffech wybod mwy am y Bwrdd Diogelu, ewch i Rhieni a Gofalwyr | Diogelu, Cwm Taf Morgannwg (cwmtafmorgannwgsafeguardingboard.co.uk). Bydd y ddolen hon yn mynd â chi’n syth i’r Adran Rhieni/Gofalwyr ac yn rhoi gwybodaeth i chi am sawl pwnc sy’n ymwneud â chadw plant a phobl ifanc yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys taflen i rieni a gofalwyr sy’n esbonio proses y Gynhadledd Amddiffyn Plant. Am ragor o wybodaeth, gweler y Daflen Ffeithiau i ddilyn.
Dysgwch fwy am y ffordd yr ydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â phlant, pobl ifanc a theuluoedd isod.