Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cwrdd  Siôn Corn 2021
Pwrpas yr apêl hon yw galluogi aelodau’r cyhoedd i brynu anrhegion ar gyfer plant na fyddai, o bosib yn derbyn dim yn ystod cyfnod y Nadolig. Efallai mai hwn fydd eu hunig ymweliad gan Siôn Corn.
Llynedd, derbyniodd 202 o blant a 50 o deuluoedd gymorth i sicrhau eu bod yn cael Nadolig i’w gofio. Mae’ch caredigrwydd a’ch cefnogaeth wedi bod yn eithriadol a gobethio, y bydd fodd i chi gynorthwyo unwaith yn rhagor, eleni er mwyn gwneud gwahaniaeth mawr i blentyn ym Merthyr y Nadolig hwn.
Gall rhoddion gael eu gadael yn y canolfannau casglu canlynol, cyn Dydd Llun, 6 Rhagfyr 2021:
B & Q Merthyr
Co-op – Pentrebach
Smithy’s Bakery – Tref Merthyr
Beacons Pharmacy – Tref Merthyr
Uned 5 – Parc Busnes Triongl - Merthyr
Yn sgil rheoliadau iechyd a diogelwch, nid oes fodd i ni dderbyn teganau sydd eisoes wedi cael eu defnyddio. Byddwn hefyd yn gofyn i chi beidio â lapio anrhegion.
M unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â Chanolfan Deulu Merthyr Tudful ar (01685) 725018 rhwng 9 – 5pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener
Mae’r apêl yn cael ei drefnu gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol CBSMT.