Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cwrdd  Siôn Corn 2023
Pwrpas yr apêl yw galluogi aelodau’r cyhoedd i brynu anrhegion i blant sydd mewn peryg o golli allan adeg y Nadolig. Heb gefnogaeth ein preswylwyr, mae’n bosib na fyddai’r plant hyn yn derbyn ymweliad gan Sion Corn o gwbl.
Llynedd fe anfonom ni anrhegion i 228 o blant ar hyd a lled Merthyr Tudful, cyflawniad gwych nad oedd yn bosib heb gefnogaeth preswylwyr a busnesau Merthyr Tudful. Mae eich caredigrwydd ac haelioni wastad wedi bod yn anhygoel a gobeithio y gallwch gefnogi eto eleni a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blentyn ym Merthyr y Nadolig hwn.
Gellir cyflwyno rhoddion yn un o’r canolfannau hyn cyn dydd Llun Rhagfyr 4ydd 2023:
Y Ganolfan Ddinesig
B & Q Merthyr Tudful
Canolfan Hamdden Aberfan
Hays Travel
Asda
Oherwydd rheoliadau iechyd a diogelwch, yn anffodus, ni allwn dderbyn anrhegion/eitemau ail law. Gofynwn yn garedig am anrhegion sydd heb eu hagor.
Am ymholiadau pellach, cysylltwch gyda Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd Merthyr Tudful ar 01685 727400 rhwng 9am – 5pm dydd Llun hyd ddydd Gwener.
Trefnir yr apêl gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol CBSMT.