Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun ar gyfer y Rhaglen Cymdogaethau

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis Merthyr fel tref allweddol i dderbyn buddsoddiad sylweddol, gyda hyd at £20 miliwn wedi'i ddyrannu dros y deng mlynedd nesaf drwy'r rhaglen newydd Cynllun ar gyfer Cymdogaethau. Mae’n fwy na grant yn unig; Mae'n gyfle i drawsnewid ein cymuned o'i gwreiddiau i fyny.

Mae'r Cynllun ar gyfer Cymdogaethau’n fenter genedlaethol, ond bydd yn cael ei lunio gan anghenion lleol. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i wella'r ardaloedd lle rydym yn byw a chryfhau'r cysylltiadau sy'n ein dal at ein gilydd. Byddwn yn canolbwyntio ar feysydd allweddol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ein bywydau bob dydd:

  • Cydlyniad
  • Addysg a Chyfleoedd
  • Iechyd a Lles
  • Tai
  • Adfywio, Strydoedd Mawr a Threftadaeth
  • Diogelwch
  • Cludiant
  • Gwaith, Cynhyrchiant a Sgiliau

Yn arwain yr ymdrech hon mae ein Bwrdd Cymdogaeth, sydd wedi ei gadeirio a'i ffurfio'n annibynnol i gynrychioli buddiannau cymunedol, safbwyntiau busnes a sefydliadau cyhoeddus a sy’n gweithio mewn partneriaeth â'r Awdurdod Lleol. Eu cenhadaeth yw creu Cynllun Cymdogaeth deng mlynedd, gan gynnwys cynllun buddsoddi pedair blynedd i gyflawni gwelliannau diriaethol a dod â gweledigaeth ein cymuned yn fyw. Arweinir y gwaith hwn gan dri amcan craidd:

  • Ardaloedd sy’n Ffynnu
  • Cymunedau Cryfach
  • Adennill rheolaeth

Eich llais, eich cynllun: Dewch i ni siarad am Ferthyr

Ni all y cynllun hwn lwyddo hebdoch chi. Pobl Merthyr yw'r gwir arbenigwyr ein cymuned, ac mae eich mewnwelediadau yn sylfaenol i lwyddiant y rhaglen.

Ymunwch â ni ym mis Medi 2025 ar gyfer sioe ymgynghori cyhoeddus fydd yn teithio o amgylch y fwrdeistref. Rydym am glywed eich syniadau ynghylch sut i lunio'r rhaglen Cynllun ar gyfer Cymdogaethau a dyma eich cyfle i'n helpu i greu Merthyr lle gall pawb ffynnu.

 

Dolenni Allweddol

Cadwch mewn cysylltiad a byddwch hyddysg bob cam o'r ffordd.

  • Digwyddiadau: Edrychwch fan hyn am fanylion ynghylch cyfarfodydd cyhoeddus, y gweithdai a’r digwyddiadau cymunedol sydd ar gyrraedd.
  • Cyfarfodydd, Cofnodion, ac Agendâu: Dewch o hyd i'r holl ddogfennau swyddogol o gyfarfodydd y Bwrdd Cymdogaeth. Mae’n ffordd o sicrhau tryloywder llawn.
  • Adroddiad Ymgynghori: Bydd yr adroddiad terfynol o'n hymgynghoriad cyhoeddus, sy'n crynhoi'r holl adborth cymunedol, ar gael fan hyn.
  • Dogfennau'r rhaglen Cynllun ar gyfer Cymdogaeth: Dewch o hyd i holl ganllawiau’r rhaglen fan hyn Cynllun ar gyfer Cymdogaethau: prosbectws - GOV.UK

Cysylltwch â Ni