Ar-lein, Mae'n arbed amser

Alcohol ac Adloniant - Personol

Rhoddir trwydded bersonol dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ac mae’n galluogi unigolyn i werthu neu awdurdodi gwerthiant alcohol.

Rhaid i bob safle â thrwydded safle dan Ddeddf Trwyddedu 2003 gael i leiaf un deiliad trwydded bersonol i gael ei benodi’n Oruchwyliwr Penodedig y Safle lle mae gwerthu alcohol ymhlith ei weithgareddau.

Goruchwyliwr Penodedig y Safle yw’r unigolyn a enwir ar drwydded safle a roddir dan Ddeddf Trwyddedu 2003, sy’n gyfrifol am awdurdodi gwerthu alcohol ac sy’n gyfrifol am reoli’r safle o ddydd i ddydd. Rhaid i’r Goruchwyliwr feddu ar drwydded bersonol.

Nid oes dyddiad terfyn ar Drwydded Bersonol ac fe’i cydnabyddir ledled Cymru a Lloegr.

 

Pwy all wneud cais am Drwydded Bersonol?

Rhaid i ddeiliad trwydded bersonol:

  • fod yn 18 oed neu hŷn
  • heb fod wedi ildio trwydded bersonol yn y 5 mlynedd cyn gwneud y cais
  • heb ei euogfarnu am unrhyw drosedd berthnasol neu dramor;
  • meddu ar gymhwyster trwyddedu achrededig
Sut i wneud cais am drwydded bersonol

Rhaid cyflwyno cais am drwydded bersonol i’r Awdurdod Lleol lle rydych yn byw a dylai gynnwys y canlynol:

  • ffurflen gais wedi’i llenwi;
  • y ffi briodol (£37.00);
  • dau lun maint pasbort gydag un wedi’i arwyddo gan gyfreithiwr, notari, athro, darlithydd neu weithiwr proffesiynol arall i nodi’i fod yn debygrwydd gwir;
  • datgeliad o droseddau a datganiad;
  • tystysgrif datgelu euogfarn droseddol sylfaenol neu ganlyniadau chwiliad mynediad person dan Ddeddf Diogelu Data 1998(b) ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu gan y Gwasanaeth Adnabod Cenedlaethol;
  • tystysgrif Cymhwyster Trwyddedu Achrededig (gweler y manylion isod).

Mae gwiriadau cofnodion troseddol sylfaenol ar gael o Disclosure Scotland.

Cymhwyster trwyddedu achrededig

At ddiben trwyddedau personol, mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi achredu 5 cymhwyster dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Gwobr Lefel 2 Award i Ddeiliaid Trwydded Bersonol. Mae rhagor o wybodaeth am y cymwysterau achrededig hyn ar gael o GOV.uk

Beth sy’n digwydd nesaf

Os nad oes troseddau perthnasol gan yr ymgeisydd ac os yw’n bodloni’r holl feini prawf gofynnol, bydd y drwydded yn cael ei dyfarnu.

Pan fo troseddau perthnasol, bydd yr Awdurdod Trwyddedu’n dweud wrth Heddlu De Cymru. Gall yr Heddlu wrthod dyfarnu cais os ydynt o’r farn y byddai dyfarnu’r drwydded yn tanseilio’r amcan atal troseddu a rhaid iddo roi hysbysiad o wrthod i’r awdurdod ymhen 14 diwrnod. Bydd y pwyllgor trwyddedu wedyn yn penderfynu ar y cais mewn gwrandawiad.

Os na cheir wrthwynebiad ac mae’r ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf ymgeisio, bydd y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Ffurflenni Cais

Mae’r holl ffurflenni cais swyddogol i ymgeisio am Drwydded bersonol ar gael o GOV.uk