Ar-lein, Mae'n arbed amser

Peiriannau Gemau ar Safleoedd Alcohol Trwyddedig

Dan Ddeddf Gamblo 2005 a ddaeth i rym ar 1 Medi 2007 ac a greodd y caniatâd canlynol i ddefnyddio Peiriannau Gemau mewn Safleoedd Alcohol trwyddedaug:

  • Hysbysiad o hyd at 2 beiriant gemau mewn Safleoedd Alcohol Trwyddedaug
  • Trwydded Peiriannau Gemau ar Safle Alcohol Trwyddedaug

Sefydliadau a chanddynt Drwydded Safle dan Ddeddf Drwyddedu 2003 am werthu alcohol i’w yfed ar y safle yn unig all weithredu peiriannau gemau categori C neu D.

I weithredu peiriannau gemau mewn safleoedd alcohol trwyddedaug, rhaid i ddeiliaid y drwydded gydymffurfio â Chod Ymarfer Trwyddedau Peiriannau Gemau'r Comisiwn Gamblo dan adran 24 Deddf Gamblo 2005.

Hysbysiad o hyd at 2 Beiriant Gemau

Mae Deddf Gamblo 2005 yn rhoi hawl awtomatig i ddeiliad trwydded safle dan Ddeddf Drwyddedu 2003 ddarparu hyd at ddau beiriant gemau Categori C a D ar eu safle. Nid oes angen gwneud cais am drwydded ond rhaid i ddeiliaid trwydded safle ddweud wrth yr Awdurdod Trwyddedu’n ysgrifenedig am eu bwriad i ddarparu’r peiriannau trwy lenwi ffurflen gais a thalu’r ffi ragnodedig.

Nid oes dyddiad terfyn i hysbysiad a bydd yn parhau ar waith cyhyd â bod y safle’n parhau i feddu ar drwydded alcohol ac mae deiliad y drwydded yn parhau â’r drwydded honno.

Am ragor o wybodaeth am wneud cais cysylltwch â ni.

Trwyddedau Peiriannau Gemau Alcohol Trwyddedaug

Pan fo deiliad Trwydded Safle’n dymuno darparu mwy na dau beiriant gemau, rhaid anfon cais am Drwydded Peiriant Gemau i’r Awdurdod Trwyddedu ynghyd â’r ffi ragnodedig.

Nid oes cyfyngiad ar nifer y peiriannau y gellir gwneud cais amdanyn nhw a gellir gwneud cais i amrywio nifer y peiriannau unrhyw bryd. Nid oes dyddiad terfyn i hysbysiad a bydd yn parhau ar waith cyhyd â bod y safle’n parhau i feddu ar drwydded alcohol ac mae deiliad y drwydded yn parhau â’r drwydded honno.

Mae ffi flynyddol am y math hwn o Drwydded y mae’n rhaid ei thalu ymhen 30 diwrnod o ddechrau’r Drwydded.

Am ragor o wybodaeth am wneud cais cysylltwch â ni.

Gemau Anghymwys ar Safleoedd Alcohol Trwyddedaug

Gemau anghymwys yw gemau cyfle cyfartal y gellir eu chwarae ar y cyfan mewn unrhyw glwb neu safle alcohol trwyddedaug. Mae’r eithrio hwn ar gael yn awtomatig i bob clwb neu safle alcohol trwyddedaug, ond mae’n amodol ar wystlon statudol a chyfyngiadau gwobrau wedi’u pennu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae gemau cyfle cyfartal yn cynnwys gemau megis Backgammon, Mah-Jong, Rummy, Kalooki, Dominoes, Cribbage, Bingo a Poker a dylen nhw gefnogi pwrpas y safle.

Rhaid i bob safle sy’n darparu gemau cyfle cyfartal gydymffurfio â Chod Ymarfer Trwyddedau Peiriannau Gemau'r Comisiwn Gamblo dan adran 24 Deddf Gamblo 2005.

Cysylltwch â Ni