Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded loteri

Beth yw cymdeithas?

At ddibenion y loteri, caiff cymdeithas ei sefydlu a’i gweinyddu ar gyfer:

  • dibenion elusennol
  • y diben o alluogi cyfranogi, neu gefnogi, chwaraeon, athletau neu weithgaredd diwylliannol neu
  • unrhyw ddiben arall nad yw’n fasnachol ac eithrio elw preifat

Rhaid i ganlyniad pob loteri ymroddi i’r dibenion hynny. Ni chaniateir sefydlu loteri cymdeithas sydd â’i unig ddiben o hwyluso loterïau - rhaid bod ganddo ryw ddiben arall.

Beth yw loteri fach?

Mewn loteri fach nid yw cyfanswm gwerth y tocynnau i’w gwerthu yn ôl y loteri sengl yn ddim mwy na £20,000 neu nid yw cyfanswm gwerth tocynnau i’w gwerthu ar gyfer holl loterïau cymdeithas mewn blwyddyn galendr ddim mwy na £250,000.

Os yw’r hyrwyddwr yn anelu at gyfanswm sy’n fwy nag unrhyw un o’r ffigyrau hyn yna byddai’n loteri’n cael ei dosbarthu fel un ‘mawr’ a byddai’n rhaid i’r Comisiwn Gamblo ei drwyddedu.

Rhaid cofrestru Loterïau Cymdeithas Fach gyda’r Awdurdod Lleol yn yr ardal ble y lleolir eu prif swyddfa.

 

Pa gyfyngiadau a osodir ar Loteriau Cymdeithasu Bach?

  • Rhaid i o leiaf 20% o’r arian a godir mewn loteri gael ei gymhwyso at ddibenion y loteri.
  • Ni all unrhyw wobr sengl fod yn werth mwy na £25,000.
  • Mae cario arian drosodd o’r naill loteri i’r nesaf yn cael ei ganiatáu ond ddim ond pan fo pob loteri a gaiff ei effeithio yn Loteri Cymdeithas Fach hefyd, wedi ei hyrwyddo gan yr un gymdeithas a phan fo’r wobr sengl fwyaf yn ddim mwy na £25,000 neu 10% o’r holl arian a godir.
  • Rhaid i bris pob tocyn yn y loteri fod yr un peth a rhaid bod ffi'r tocyn wedi ei dalu i’r gymdeithas cyn caniatáu cyhoeddi’r wobr.

Beth sy’n rhaid ei wneud i gydsynio â’r Ddeddf Gamblo?

  • Rhaid i bob Loteri Cymdeithas Fach gael ei gofrestru â’r Awdurdod Lleol perthnasol. Ceir ffi cofrestru cychwynnol o £40.00 a ffi blynyddol o £20.00 i gynnal eich cofrestriad.
  • Rhaid i o leiaf isafswm cyfran yr arian a godir gael ei sianelu at ddibenion buddiol y gymdeithas. Y mae’n anghyfreithlon gwneud fel arall.
  • Rhaid llenwni Ffurflen Dreth i’r Awdurdod Lleol sydd wedi cofrestru’r loteri.

Gwneud Cais

Os ydych am wneud cais yna cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd ynghyd â’r ffurflen yn cynnwys rhifau ardystiedig wedi eu harwyddo gan yr holl bartion. £40.00 yw’r ffi am gofrestru o’r newydd.

Cysylltwch â Ni