Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Symud Anifeiliaid

Mae holl symudiadau gwartheg, ceirw, defaid, geifr a moch wedi’i reoli gan y drwydded gyffredinol a roddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ogystal â’r drwydded gyffredinol rhaid cael trwydded symud a elwir yn AML1 ar gyfer defaid, AML2 ar gyfer moch ac AML24 ar gyfer ceirw. Mae’r rhain ar gael gennym ni.

Mae cyfrifoldeb gan Dîm Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gofnodi symudiadau defaid, geifr, moch a cheirw fferm ar System Trwyddedu Symudiadau Anifeiliaid DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig). Mae hwn yn fas data cenedlaethol sy’n cofnodi ac yn monitro symudiadau defaid, geifr, ceirw fferm, gwartheg a moch ar draws y wlad sy’n hanfodol i olrhain da byw mewn achos o glefyd.

Ers diwedd achos 2001 o Glwy’r Traed a’r Genau bu rheoliadau ar symud anifeiliaid. O 4 Mawrth 2003 cafodd reol y cyfnod gwahardd symud ei leihau o 20 diwrnod i 6 diwrnod ar gyfer gwartheg, defaid a geifr ond â rhai eithriadau. Fodd bynnag mae moch wedi parhau â chyfnod gwahardd symud o 20 diwrnod. Rôl Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw cynghori a sicrhau cydymffurfio a gorfodi’r ddeddfwriaeth bresennol a’i chyfyngiadau lle bo angen.

 

Cwestiynau Cyffredin

Rwy’n byw ym Merthyr Tudful ac eisiau symud defaid, beth ydw i’n wneud?

Cysylltu â’r Tîm Iechyd Anifeiliaid er mwyn gallu anfon dogfen symud ffurflen AML1 atoch. Rhaid i’r ddogfen hon deithio gyda’r anifeiliaid yn ystod eu symud. Rhaid i’r meddiannwr ddychwelyd y ddogfen symud i Awdurdod Lleol y cyfeiriad ar y pen arall ymhen 3 diwrnod o gwblhau’r symud.

Rwy’n byw ym Merthyr Tudful ac eisiau symud moch, beth ydw i’n wneud?

Cysylltu â’r Tîm Iechyd Anifeiliaid er mwyn gallu anfon dogfen symud ffurflen AML2 atoch. Rhaid i’r ddogfen hon deithio gyda’r anifeiliaid yn ystod eu symud. Rhaid i’r meddiannwr ddychwelyd y ddogfen symud i Awdurdod Lleol y cyfeiriad ar y pen arall ymhen 3 diwrnod o gwblhau’r symud.

Beth yw AML 1?

Mae AML 1 yn ddogfen Adrodd ar Symud Anifeiliaid y mae’n rhaid ei defnyddio i symud defaid, geifr a cheirw fferm ar ddaliad ac i ffwrdd.

Beth yw AML 2?

Mae AML 2 yn ddogfen Adrodd ar Symud Anifeiliaid y mae’n rhaid ei defnyddio i symud moch ar ddaliad ac i ffwrdd.

Sut ydw i’n cael Trwyddedau Symud Anifeiliaid (AML 1 ac AML 2)?

Mae angen i chi gysylltu â’r Tîm Iechyd Anifeiliaid a fydd yn rhoi Dogfen adrodd ar Symud Anifeiliaid a gaiff ei defnyddio i symud defaid, geifr, ceirw fferm (AML1) a moch (AML2).

Pa Drwydded Symud sydd ei angen arnaf i symud gwartheg?

Does dim angen trwydded benodol arnoch ond rhaid bod pasbort gyda’r gwartheg wrth eu symud ar ddaliad ac i ffwrdd. Rhaid anfon yr wybodaeth berthnasol i’r BCMS (British Cattle Movement Service) i gofnodi’r symudiad. Mae manylion BCMS i’w gweld ar y pasbort. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Rhaid dychwelyd Trwyddedau Symud i’r adran Safonau Masnachu, Tîm Iechyd Anifeiliaid, Canolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful CF47 8AN

Cysylltwch â Ni