Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cofrestru Anifeiliaid sy’n Perfformio

Mae angen i unrhyw berson sy’n arddangos neu’n hyfforddi anifeiliaid perfformio fod wedi cofrestru gyda’u hawdurdod lleol o dan Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925. Mae’n rhaid i chi gofrestru os ydych am gadw neu hyfforddi anifeiliaid ar gyfer perfformiad cyhoeddus, er enghraifft mewn cynhyrchiad teledu, perfformiad theatr neu arddangosiadau mewn ysgolion. Nid oes gofyniad i gofrestru os ydych yn hyfforddi neu’n arddangos anifeiliaid i’w defnyddio gan filwyr neu’r heddlu, neu os cânt eu hyfforddi i’w defnyddio mewn amaethyddiaeth neu chwaraeon.


I gofrestru, mae angen i chi gwblhau ffurflen gais a thalu ffi o £45. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cadw’r rhestr o anifeiliaid yn gyfoes gyda’r awdurdod.


Gallwch ymgeisio drwy’r post neu yn bersonol yn y Ganolfan Ddinesig ar ôl gwneud apwyntiad gyda’r Adran Drwyddedu.


Cedwir cofrestr o’r holl bobl sydd wedi cofrestru o dan y Ddeddf ac mae ar gael i’r cyhoedd i’w gweld drwy drefnu apwyntiad ymlaen llaw.


Os oes gennych unrhyw bryderon lles ar gyfer unrhyw anifail sy’n perfformio neu’n credu bod person yn defnyddio anifail heb gofrestru anifeiliaid perfformio, cysylltwch â’r Adran Drwyddedu.

Cysylltwch â Ni