Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Siop Anifeiliaid Anwes

Mae angen i unrhyw un sy’n rhedeg siop anifeiliaid anwes gael ei drwyddedu yn unol â Deddf Anifeiliaid Anwes 1951. Mae hyn yn cynnwys gwerthu anifeiliaid o siopau, safleoedd domestig a thros y rhyngrwyd. Nid yw'n cynnwys gwerthu anifeiliaid pedigri a fridiwyd yn breifat neu epil eich anifail anwes eich hun.

I wneud cais, mae'n ofynnol ichi lenwi’r dogfennau canlynol:

  • ffurflen gais a chofrestr

Y ffi ar gyfer y cais yw £200.  Gallwch ymgeisio drwy’r post neu yn bersonol yn y Ganolfan Ddinesig ar ôl gwneud apwyntiad gyda’r Adran Drwyddedu.

Unwaith i’r cais a’r ffi lawn gyrraedd yr Adran Drwyddedu, caiff archwiliad trwyddedu ei gynnal yn y safle gydag Ymarferydd Milfeddygol awdurdodedig. Bwriad yr archwiliad yw sicrhau eich bod yn bodloni holl amodau’r Awdurdod hwn.

Bydd trwyddedau yn para o’r dyddiad y’u cyflwynwyd tan 31 Rhagfyr y flwyddyn galendr honno.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch lles anifeiliaid o fewn siop anifeiliaid anwes neu, os ydych yn credu bod rhywun yn gwerthu anifeiliaid anwes heb drwydded, cofiwch gysylltu â'r Adran Drwyddedu.

Cysylltwch â Ni