Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Sefydliad marchogaeth

Mae’n rhaid i safle lle y bydd ceffylau’n cael eu cadw ar gyfer eu marchogaeth neu y bydd tâl yn cael eu derbyn am eu defnyddio neu am gyfarwyddyd am eu marchogaeth feddu ar drwydded yn unol â Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970.


Er mwyn gwneud cais, mae’n ofynnol i gyflwyno’r dogfennau canlynol:
• Ffurflen gais;
• Tystysgrif yswiriant;
• Unrhyw dystysgrifau perthnasol.


Cost y cais am drwydded yw The £200.  Gellir gwneud ceisiadau drwy’r post neu drefnu apwyntiad gyda’r Adran Drwyddedu yn y Ganolfan Ddinesig. 


Unwaith bydd y cais llawn a’r ffi wedi eu derbyn gan yr Adran Drwyddedu, bydd archwiliad trwyddedu yn cael ei gwblhau o’r safle gan Ymarferwr Milfeddygol awdurdodedig. Mae’r archwiliad hwn er mwyn sicrhau bod holl amodau gofynnol yr Awdurdod hwn yn cael eu diwallu.


Os oes gennych unrhyw bryderon am les anifeiliaid oddi fewn i’r sefydliad neu y credwch fod unigolyn yn masnachu heb drwydded, cysylltwch â’r Adran Drwyddedu.

Cysylltwch â Ni