Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Caffi Stryd

Caiff caniatâd i osod byrddau a chadeiriau ar y briffordd ei gyflwyno o dan Adran VIIA Deddf Priffyrdd 1980. Ym Merthyr Tudful mae’r cynllun wedi ei gyflwyno i annog y ddarpariaeth o “Ardal Gaffi” gyda’r golwg y bydd yn helpu i wneud y gorau o’r defnydd o fannau cyhoeddus, o fudd i’r economi leol ac ychwanegu at y cyfleusterau a gaiff eu cynnig i bobl sy’n ymweld â Merthyr Tudful ac yn gweithio a byw yno.

Mae’n ofynnol cael trwyddedau caniatáu gosod byrddau a chadeiriau ar briffordd gyhoeddus yn unig, (nid oes angen trwydded ar gyfer byrddau a chadeiriau ar dir preifat).

Sut i Ymgeisio

Er mwyn ymgeisio am drwydded i osod Byrddau A Chadeiriau ar Briffordd Gyhoeddus, rhaid bod eich adeiladau wedi eu lleoli o fewn yr ardal sy’n gynwysedig yn y cynllun trwyddedu a’i fod yn gaffi, tafarn neu’n sefydliad arlwyo arall sy’n gweini bwyd a diod y tu fewn i’r adeilad. 

Mae’n ofynnol bod yr holl geisiadau yn bodloni’r gofynion angenrheidiol a osodir yn nhelerau ac amodau’r cynllun ac fe gynghorir unrhyw un sy’n bwriadu ymgeisio, ddarllen y nodiadau canllaw yn gyntaf.

Rhaid i chi fod dros 18 oed a chyflwyno’r canlynol i’r Adran Drwyddedu:

  • Ffurflen gais
  • Cynllun o’r ardal arfaethedig
  • Ffotograffau a/neu luniau o’r dodrefn arfaethedig
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus hyd at £5,000,000 o werth
  • Y ffi
Cyfnod Ymgynghori

Pan fo cais cyflawn wedi ei dderbyn gan yr Adran Drwyddedu mae cyfnod ymgynghori statudol 28 niwrnod yn dechrau, ble mae’n rhaid gosod hysbysiad ar yr adeilad, a bydd copi o’r cais yn cael ei anfon at yr unigolion/cyrff canlynol i ofyn am eu cydsyniad/gwrthwynebiad:

  • Pennaeth Iechyd Cyhoeddus
  • Rheolwr Grŵp Rhwydwaith Priffyrdd
  • Pennaeth Cynllunio Trefol
  • Rheolwr Canol y Dref
  • Heddlu De Cymru
  • Gwasanaeth Tân De Cymru
  • Perchnogion/Preswylwyr yr adeiladau sydd i’w heffeithio’n faterol gan y cais

Pan fo cais yn bodloni gofynion angenrheidiol a osodir yn y nodiadau canllaw, amodau a thelerau’r cynllun a dim gwrthwynebiad mewn perthynas â’r cais, caiff y drwydded ei chyflwyno am gyfnod o 12 mis.

Beth sy’n Digwydd Nesaf?

Pan gaiff gwrthwynebiad ei dderbyn mewn perthynas â’r cais, bydd y cais yn cael ei benderfynu gan yr Pennaeth Gwarchodaeth a Gwasanaethau Diogelwch.

Nid oes hawl apelio yn erbyn gwrthodiad cais i osod byrddau a chadeiriau ar y briffordd.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Adran Drwyddedu.

Cysylltwch â Ni