Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Drafnidiaeth y Sector Gwirfoddol

Gellir rhoi trwyddedau bws mini i sefydliadau sy’n ymwneud â chrefydd, addysg, hamdden, lles cymdeithasol a gweithgareddau eraill er lles y gymuned.

Mae’r trwyddedau hyn yn caniatáu defnydd bws mini â rhwng 9 a 16 sedd a elwir yn drwyddedau Adran 19. Gellir eu rhoi heb i’r gweithredwr angen Trwydded Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus.

Cyn rhoi’r drwydded rhaid i’r corff dosbarthu fod yn fodlon nad yw’r gwasanaethau trafnidiaeth yn cael eu darparu er elw nac yn gysylltiedig â gweithgaredd sy’n cael ei gynnal er elw (Hurio a Gwobrwyo).

Os oes gennych ymholiadau pellach defnyddiwch y ffurflen gysylltu â ni ar ochr y dudalen hon.

Cysylltwch â Ni