Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tai

Mae ble yr ydych chi’n byw yn effeithio ar eich iechyd a’ch llesiant cyffredinol. Rydym yn darparu amrywiaeth o atebion gan gynnwys cynorthwyo prynwyr tro cyntaf gyda morgais neu eiddo fforddiadwy, addasiadau i’r cartref neu helpu i gynnal annibyniaeth. 

Rhent

Mae tîm Strategaeth Tai y Cyngor yn gweithio â landlordiaid i sicrhau fod eiddo sy’n cael ei gynnig ar rent o’r safon uchaf posibl.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.rentsmart.gov.wales neu ffoniwch 03000 133344.

Grant Cyfleusterau Anabledd

Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl ar gael ar gyfer amrywiaeth o waith a fydd yn helpu person anabl i gynnal ei annibyniaeth yn ei gartref ei hun.

Canolfan Cyngor Tai

Mae’r tîm wedi helpu miloedd o bobl ar amrywiaeth o broblemau sy’n ymwneud â thai.
Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan Tai neu ffoniwch 01685 725000.

Help yn y cartref a Llinell Bywyd

Os oes angen cymorth arnoch gyda phethau yn eich cartref, o gael prydau ar glyd, addasiadau, cymhorthion byw neu gymorth dros dro ar ôl gadael yr ysbyty gallwn helpu.
Am ragor o wybodaeth cliciwch: yma neu ffoniwch 01685 725000

Gwresogi eich cartref

Os ydych yn poeni am y gost o wresogi eich cartref, gallwch ganfod gwybodaeth neu help ar ein tudalen Effeithlonrwydd Ynni neu ffonio 01685 725000. Gallwch hefyd gysylltu â Nest ar 0808 808 2244 neu ymweld â NEST. Cynllun Llywodraeth Cymru yw Nest, sy’n gweithio i wneud cartrefi Cymru yn gynhesach ac yn llefydd mwy ynni-effeithlon i fyw ynddynt.
Am wybodaeth bellach ewch i www.nest.gov.wales

Alabaré - Alabaré's

Mae Cartref i Gyn-filwyr yn rhaglen tai a gynorthwyir i gyn-bersonél y Fyddin sy’n ddigartref ac sydd ag amrywiaeth o anghenion cefnogi.
Am wybodaeth bellach ewch i www.alabare.co.uk

SSAFA

Elusen y Lluoedd Arfog yw hon sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau i Gyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu a’u teuluoedd. Maen nhw’n darparu llety sy’n diwallu gwahanol anghenion cyn-filwyr a milwyr sy’n gwasanaethu a’u teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys Norton Homes sy’n darparu llety am ddim i deuluoedd dynion a gwragedd y fyddin sy’n derbyn triniaeth feddygol hir dymor a llety tymor byr yng nghartrefi Stepping Stone homes, am ddim i wragedd a phlant sy’n profi perthynas sy’n dod i ben.
For further information visit www.ssafa.org.uk