Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cod Ymarfer Cynghorwyr
Mae’r Cod Ymarfer yn sicrhau bod yr holl gynghorwyr yn cadw’r safonau ymddygiad uchaf wrth gyflawni’u dyletswyddau.
Mae Pwyllgor Safonau’r Cyngor yn gyfrifol am ystyried unrhyw gwynion yn erbyn cynghorydd yn erbyn y Cod Ymarfer.
Cyflwyno cwyn am ymddygiad cynghorydd
Os ydych yn dymuno cwyno bod cynghorydd neu aelod cyfetholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymarfer, cyflwynwch eich cwyn yn ysgrifenedig i’r Swyddog Monitro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Canolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Gallwch hefyd gyflwyno cwyn ffurfiol trwy ddefnyddio ein trefn cwyno neu os nad yw hyn yn bosibl gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol i’r Ombwdsmon.