Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymgynghoriad ein Cynllun Cyfartaledd Strategol 2024-2028

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym yn ymgynghori ar ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-2028 ac mae angen eich mewnbwn a'ch barn arnom i lunio a llywio ein hamcanion newydd.

Gan adeiladu ar ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 ein nod yw gwella cyfleoedd cyfartal yn ein cymuned ac wrth ddarparu gwasanaethau, cyflogaeth, comisiynu, arweinyddiaeth a gweithio mewn partneriaeth.

Mae’r themâu a’r amcanion o gynllun 2020-2024 yn dal yn bwysig, ac rydym yn gofyn a oes angen cynnwys unrhyw beth arall.

Ein themâu a’n hamcanion presennol

Thema, Ymgysylltu Cynhwysol a Chyfranogiad.

Amcan, ymgysylltu â'n Dinasyddion i gymryd rhan a chael eu lleisiau wedi'u clywed i ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau.

Thema, Cydlyniant Cymunedol.

Amcan, hyrwyddo a hwyluso cymunedau cynhwysol, diogel a chydlynol.

Thema, Gweithlu Cynhwysol ac Amrywiol.

Amcan, creu gweithlu cynhwysol ac amrywiol, sy'n adlewyrchu'r cymunedau ym Merthyr Tudful.

Thema, Rhyw/Cyflog Cyfartal.

Amcan, sicrhau tegwch cyflog ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Thema, Gwasanaethau Hygyrch.

Amcan, deall a chael gwared ar y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

Beth rydym yn gofyn i chi ei ystyried?

Rydym yn gofyn i chi ystyried y canlynol wrth ateb y cwestiynau:

  • Pa heriau y mae pobl yn eu hwynebu ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful?
  • A yw'r themâu a'r amcanion yn mynd i'r afael â'r heriau hyn yn ddigonol?
  • A ddylai’r themâu a’r amcanion hyn barhau yng nghynllun 2024-2028?
  • A oes unrhyw beth ar goll y mae angen i ni ei ystyried?
  • Beth arall allwn ni ei wneud i wella?
  • Sut allwn ni ddarparu ein gwasanaethau’n well i fodloni anghenion ein cymunedau?
  • Beth ydych chi'n meddwl sydd angen ei gynnwys yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028?

Nid yw’r pwyntiau hyn yn holl gynhwysfawr, gan ein bod am gasglu eich holl safbwyntiau.

Sut i ymateb

Gallwch gwblhau’r holiadur a rhoi adborth ar-lein trwy glicio’r ddolen hon;

Holiadur Ar-lein Cynllun Cyfartaledd Strategol 2024-2028

Mae genym holiadur hawdd ei darllen a dogfen ymgynghori;

Crynodeb Byr o Ymgynghoriad Hawdd ei Ddarllen

Cwestiynau Ymgynghoriad Hawdd ei Ddarllen

Mae copiau papur o’r holiadur a’r ddogfen ymgynghori ar gael yn y Ganolfan Ddinesig neu gallwch ofyn am gopi i’w argraffu a’i gasglu.

Dogfen Ymgynghori Cynllun Cyfartaledd Strategol 2024-2028

Holiadur Cynllun Cyfartaledd Strategol 2024-2028

Os ydych yn dymuno derbyn y dogfennau mewn fformat neu iaith wahanol, neu angen cymorth i gwblhau’r holiadur, cysylltwch gyda ni ar y manylion cyswllt isod;

Cydraddoldeb

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Canolfan Ddinesig

Stryd y Castell

Merthyr Tudful

CF47 8AN

E-bost: equalities@merthyr.gov.uk

Ffôn: 01685 725000 a gofynnwch am yr adran Cydraddoldeb.

Gellir hefyd e-bostio, dychwelyd neu bostio ymatebion gan ddefnyddio'r un manylion cyswllt uchod.

Cysylltwch â Ni