Ar-lein, Mae'n arbed amser

Arolwg: Llunio Dyfodol Ein Cymdogaeth ym Merthyr Tudful

Mae Merthyr Tudful wedi cael ei ddewis fel un o'r 75 cymuned ledled y DU i dderbyn hyd at £20m dros y deng mlynedd nesaf i dyfu'r economi, darparu strydoedd mwy diogel a chreu cyfleoedd i bawb.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar gael ar wefan y llywodraeth

Mae eich adborth yn hanfodol i'n helpu i ddeall beth sy'n bwysig i chi a phobl Merthyr Tudful.

Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn cael eu defnyddio gan y Bwrdd Cymdogaeth newydd i greu cynllun hirdymor a phenderfynu ble i ganolbwyntio buddsoddiad.

Dylai'r arolwg hwn gymryd tua 10-15 munud i'w gwblhau. Mae'r holl ymatebion yn ddienw a byddant yn cael eu cadw'n gyfrinachol.

Dewch i dweud eich dweud: 

Dyddiad Amser Lleoliad 
16.09.25 10:00  -12:00 HwB Canolfan St Tydfil 
17.09.25 13:00 – 15:00 Coleg Merthyr 
18.09.25 10:00  -12:00 Ysbyty'r Tywysog Siarl 
18.09.25

13:30 – 15:30

Canolfan Cwm Golau Pentrebach 
22.09.25 11:00-13:00 Canolfan Hamdden Merthyr Tudful 
23.09.25

10:00  -12:00

Canolfan Mundel Cefn 
23.09.25 14:30-16:30 Canolfan Gymunedol Dowlais 
26.09.25 12:00-14:00 Trago Mills
27.09.25 10:00  -12:00 Tesco