Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gorsafoedd Pleidleisio

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.  Fodd bynnag, os nad ydych yn gallu myn i'r orsaf bleidleisio yn bersonol ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy.

Tua thair i bedair wythnos cyn etholiad, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio trwy’r post. Ar y cerdyn hwn bydd manylion pryd, lle a sut i bleidleisio. Os yw’n haws, gallwch fynd â’r cerdyn hwn gyda chi pan fyddwch yn pleidleisio er y gallwch bleidleisio hebddo.

Bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Yn yr orsaf bleidleisio bydd y Clerc Pleidleisio yn gofyn i chi ar lafar am eich enw a'ch cyfeiriad.  Bydd y cadarnhad llafar hwn yn brawf mai chi yw pwy rydych yn dweud ydych chi.  Mae rhoi gwybodaeth ffug yn drosedd a gallai hynny arwain at gael eich erlyn.

Yna, byddwch yn derbyn papur pleidleisio a fydd yn dweud faint o ymgeiswyr y gallwch bleidleisio drostynt. Ewch â’r papur pleidleisio i’r blwch pleidleisio a rhoi croes wrth yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr yr ydych am bleidleisio drostynt.

Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth arall ar y papur neu bydd perygl na fydd eich pleidlais yn cael ei gyfrif. Plygwch y papur pleidleisio i guddio eich pleidlais, dangoswch y papur wedi'i blygu i’r clerc a'i roi yn y bocs pleidleisio. Nid oes yn rhaid i chi ddweud wrth unrhyw un am bwy yr ydych wedi pleidleisio.