Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cofrestru i Bleidleisio

Mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gadw'r gofrestr o bleidleiswyr cymwys yn gyfredol.  Bod blwyddyn, rydym yn cysylltu â phob cartref i gael gwybod a yw'r manylion sydd gennym yn gywir ac yn rhoi cyfle i chi wneud diwygiadau ac ychwanegiadau.  Gelwir hyn yn Ganfasio Blynyddol ac fe'i cynhelir rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr bob blwyddyn.

Symud Cartref

Os ydych yn symud adref bydd angen i chi ailgofrestru. Cofiwch bydd angen i bob person sy’n gymwys i bleidleisio yn y cartref gofrestru’n unigol.  Fodd bynnag, nid yw ychwanegu enw i'r gofrestr etholwyr yn eich hawl i bleidleisio.  

Ni fydd eich hen gofrestriad na'ch pleidlais bost yn symud gyda chi.

Newid eich enw

Os ydych yn newid eich enw, er mwyn diweddaru’r gofrestr etholiadol bydd angen i chi lenwi a llofnodi ffurflen newid enw pleidleisiwr. Ni ellir gwneud hyn ar-lein. Hefyd, byddwch angen darparu dogfen berthnasol fel copi o dystysgrif priodas, gweithred newid enw neu dystysgrif geni i gefnogi’r ffurflen.

Dewis cael eich rhestru neu beidio cael eich cofrestru ar y gofrestr agored

Mae dwy gofrestr:

  • Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio ac mae’n cael ei ddefnyddio at ddibenion etholiadol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cyfyngedig eraill a nodwyd gan y gyfraith, fel canfod trosedd, galw pobl i wneud gwasanaethau rheithgor a gwirio ceisiadau credyd.
  • Darn o’r gofrestr etholiadol yw’r gofrestr agored ac nid yw’n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw unigolyn, gwmni neu sefydliad brynu’r rhestr hon at ddibenion marchnata. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn am dynnu’r rhain oddi arni. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio eich hawl i bleidleisio.

Mae’n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadau ond gallwch ddewis cael eich rhestru neu beidio cael eich rhestru ar y gofrestr agored.