Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swae Fictorianaidd yn dod i ganol tref Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 04 Awst 2022
Heritage Victorian Day Media Advert Welsh

Gall ymwelwyr a phreswylwyr Merthyr Tudful fynd yn ôl mewn amser y mis yma wrth i ganol y dref gynnal diwrnod Fictorianaidd- rhywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau.

O 11am - 3pm ddydd Iau Awst 18 mae ‘Diwrnod Treftadaeth Fictorianaidd Treflun Pontmorlais wedi ei gynllunio i roi darlun i ymwelwyr o beth fyddai canol y dref wedi edrych fel bron i 200 mlynedd yn ôl.

Wedi ei drefnu gan   Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful mewn partneriaeth gyda Big Heart of Merthyr Tydfil BID,  bydd y digwyddiad yn gweld cymeriadau mewn gwisg oes Fictoria yng nghanol y dref.

Gal ymwelwyr wisgo fyny hefyd a mwynhau reid mewn ceffyl a chart ar hyd Stryd Fawr Pontmorlais, gwylio sioe Pwnsh a Siwan a chael tr oar y cychod siglo- un o’r reidiau ffair gynharaf yn Oes Fictoria.

Bydd cyhoeddwr yn nodi digwyddiadau gan gynnwys dyfodiad William Crawshay, perchennog Gwaith haearn Cyfarthfa-  a fydd yn dychwelyd i strydoedd Merthyr Tudful unwaith eto.

Bydd Marchnad grefftwyr ar Stryd Fawr Pontmorlais yn gwerthu nwyddau lleol a chartref i’w blasu a’u prynu.

Gweithgareddau eraill fydd dweud stori draddodiadol yn Theatr Soar- yn rhad ac am ddim.

Hefyd fydd, the Big Heart of Merthyr Tydfil BID yn cynnal gemau ffair o’r 18 fed Ganrif ar Stryd Graham- dewch i ennill Cneuen Goco, fachu hwyaden neu drio’r Hwpla..

Dwedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cyng, Geraint Thomas,: Mae Diwrnod Treftadaeth Fictorianaidd Treflun Pontmorlais wedi ei gynllunio i gynnig rhywbeth gwahanol i deuluoedd, wrth roi rheswm arbennig i ymwelwyr o’r Cymoedd ehangach, Caerdydd ac ymhellach i ymweld.

“Mae hyn yn bwydo i’n cynlluniau i drawsnewid Merthyr Tudful yn brif atynfa twristiaid y Cymoedd erbyn 2034, bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i bobl adlewyrchu ar hanes ein tref- sy’n llawn dop o bensaernïaeth Fictorianaidd.

“ Mae adfywio’r bensaernïaeth yn ffurfio rhan sylweddol o gynllun canol y dref gyda busnesau lleol yn cael cefnogaeth i agor adeiladau gwag yng nghanol y dref. Gobeithio y bydd ymwelwyr i’r Diwrnod Treftadaeth Fictorianaidd yn manteisio ar y cyfle i ymweld â rhai o’r busnesau unigryw sydd ym Mhontmorlais.”

Mae’r Diwrnod Treftadaeth Fictorianaidd ym Merthyr Tudful yn rhan o Fenter Tirlun Treftadaeth Pontmorlais- a gyllidir trwy fuddsoddiad y sector breifat, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cadw a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Er mwyn gwybod mwy am y digwyddiad Fictorianaidd ewch i  wefan CBSM, ein Facebook, ein Twitter neu ein Instagram.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni