Ar-lein, Mae'n arbed amser
Casgliadau a Gynorthwyir
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am gasgliad a gynorthwyir.
Os ydych chi’n cael trafferth rhoi eich Bin Olwynion a’ch cynwysyddion ailgylchu allan ar ddiwrnod casglu gallwch ofyn am gasgliad a gynorthwyir ble y gall y timau casglu eich cynorthwyo chi.
Caiff asesiad ei wneud gan Wardeniaid Gwastraff y Cyngor a fydd yn adolygu a yw casgliadau a gynorthwyir yn briodol.
Bydd preswylwyr yn cael gwybod am eu cais.
Os fyddwch yn anghytuno â’r penderfyniad
Ceir proses apelio os fyddwch yn anghytuno â’r penderfyniad ble y bydd Wardeniaid Gwastraff yn cyflawni ail adolygiad os allwch ddarparu rheswm dilys pam nad oedd yr adolygiad gwreiddiol yn adlewyrchu’ch amgylchiadau arferol.
Dim ond un apêl am bob cartref a gaiff ei dderbyn oni bai bod amgylchiadau’r cartref yn newid.
Er mwyn apelio, defnyddiwch y ffurflen Cysylltu â Ni ar ymyl y dudalen hon.