Ar-lein, Mae'n arbed amser
Beth ydw i'n gallu'i ailgylchu?
Gellir derbyn y canlynol yn y Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff Cartref:
Am fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at ein Canllaw Canolfan Ailgylchu a Gwastraff Cartref
- Asbestos
- Llyfrau
- CD, DVD a Gemau
- Batris ceir a chartref
- Caniau
- Cardfwrdd
- Carpedi
- Olew coginio ac injan
- Tiwbiau fflwroleuol
- Oergelloedd/rhewgelloedd
- Poteli nwy
- Gwastraff cyffredinol (Na ellir ei ailgylchu)
- Gwydr
- Gwastraff gwyrdd (gardd)
- Graen caled (rwbel) / Pridd
- Bylbiau golau
- Matresi
- Metel
- Papur
- Plastig (caled a meddal)
- Bwrdd plastr
- Tetra Pak (cartonau sudd)
- Tecstilau
- Setiau teledu/Sgriniau
- Peiriannau Golchi/Sychu Dillad
- WEEE (Offer trydanol)
- Pren
Cynllun Paent am Ddim yng Nghanolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu (CGCaA) Dowlais
Mae paent am ddim ar gael ar gyfer preswylwyr y Fwrdeistref Sirol o CGCacA Dowlais. Nodwch, na fydd y gwasanaeth ar gael yn CGCacA Aberfan.
Mae’r paent ar gael yn Adran Ailddefnyddio’r safle gerllaw’r banciau tecstilau.
Mae paent yn cael ei storio yn ôl math. Dim ond y paent a fydd ar gael ar y safle yn ystod cyfnod ymweliad y preswylydd fydd ar gael i’w gasglu. Ni eillir archebu’r math, y lliw na’r nifer o flaen llaw. Dylai unrhyw unigolyn a hoffai fanteisio ar y gwasanaeth hwn sy’n rhad ac am ddim adrodd i aelod o’r staff cyn cael mynediad i’r adran ailddefnyddio paent.
P’un ai eich bod yn gofyn am nifer bach neu fawr o baent am unrhyw waith DIY bach neu fawr chi am wneud, hoffem eich croesawu i gymryd mantais o’r gwasanaeth hwn a lleihau’r niferoedd o baent, sydd o ansawdd da cael ei anfon i'w gwaredu.