Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ydych chi'n gwneud fel y Jonesiaid?

Ymgyrch yw Cadw lan ‘da’r Jonesiaid / Keeping up with the Joneses i sicrhau fod pob cartref ym Merthyr Tudful yn ailgylchu. Mae’n targedu lleiafrif bach o bobl nad ydynt yn ailgylchu o gwbl neu sy’n ailgylchu ychydig iawn.

Gall cartrefi nad ydynt yn dechrau ailgylchu wynebu dirwy o £300

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ailgylchu eisoes ac mae hi ond yn deg fod pawb yn gwneud hynny

Mae’r rhan fwyaf o bobl ym Merthyr yn ailgylchu, ond os allwn gyrraedd ein targed o 66% yn 2020-2021 a gweithio tuag at dargedau Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024-2025, bydd angen i BAWB wneud eu rhan. Nid yw’n deg ar y mwyafrif o breswylwyr sy’n gwneud y peth iawn os nad yw lleiafrif o gartrefi’n tynnu eu pwysau.

Mae cyfraddau ailgylchu wedi codi’n sylweddol dros y degawd diwethaf, diolch i wasanaethau ailgylchu gwell ac ymgyrchoedd hyrwyddo sy’n amlygu y dylai pobl ailgylchu.

Tra fo peth deunydd yn diweddu yn y bag neu’r bin anghywir am fod ychydig o breswylwyr yn gwneud camgymeriad gonest, neu nad ydynt yn ymwybodol o’r holl eitemau y gellir eu hailgylchu, ceir cartrefi sydd hyd yma wedi osgoi pob ymgais i wneud eu rhan wrth ailgylchu. Maen nhw’n methu â delio gyda’u gwastraff yn y modd cywir. Felly, mae angen ymagwedd newydd i newid ymddygiad y cartrefi hyn a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r polisi ailgylchu.

Os nad ydych eisoes yn ailgylchu, mae’n amser i chi ddechrau arni. Gallwn eich helpu chi.

Os na wnewch chi ddechrau ailgylchu gallech gael dirwy o £300 neu ddiwrnod yn y llys.

Ydych chi'n gwneud fel y Jonesiaid