Ar-lein, Mae'n arbed amser

Atgyweirio

Peidiwch â thaflu’ch eitemau sydd wedi torri, atgyweiriwch nhw!

Yn y pendraw, bydd popeth rydym ni’n ei brynu yn torri neu’n treulio. A phan fydd hynny’n digwydd, yn rhy aml rydym ni’n cael gwared ar yr eitem sy’n hen neu wedi torri. Mae hyn yn cynhyrchu llawer o wastraff diangen sy’n cyfrannu at allyriadau CO2 a newid yn yr hinsawdd. Ond nid oes rhaid iddo fod felly.

Gall y mwyafrif o eitemau gael eu trwsio yn hawdd, yn aml am ychydig iawn o gost. Beth am roi ail fywyd i’ch hoff eiddo, helpu’r amgylchedd, arbed rhiwfaint o arian ar hyd y ffordd, a symud Cymru at economi gylchol?

Os oes angen trwsio’ch eitem ar frys, dewch o hyd i fusnes atgywerio ar Gyfeiriadur Atgyweirio ar-lein Repair Efficiency Wales.

Os nad yw’r atgyweiriad yn un brys, beth am fynd i Ddigwyddiad Atgyweirio yn eich cymuned leol lle gall atgyweirwyr gwirfoddol drwsio’ch eitem?

Cysylltwch â Ni