Ar-lein, Mae'n arbed amser
Casgliadau Gwastraff Gwyrdd Swmpus
Mae ein gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd swmpus ar gael ar gyfer coed, canghennau a mwy o wastraff gardd. Codir tâl o £49.07 fesul llwyth cerbyd am y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd swmpus ac mae ar gael drwy gydol y flwyddyn. Lle cyflwynir mwy na llwyth cerbyd o wastraff gwyrdd swmpus, bydd angen archebu casgliad arall. Codir y tâl uchod am bob llwyth ychwanegol a archebir.
Beth sy'n digwydd ar ôl i gasgliad gael ei archebu?
Casgliadau Coll
Os na chaiff eich eitem(au) eu casglu am unrhyw reswm (fel tywydd garw neu gerbydau yn torri i lawr) byddwn yn ceisio cysylltu â chi gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarparwyd i ni wrth wneud y cais.
Gwneir pob ymdrech i gasglu ar y diwrnod gwaith nesaf.
Ad-daliadau ar gyfer canslo
Dim ond os bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn derbyn cais fwy na 2 ddiwrnod gwaith cyn y casgliad a drefnwyd y gellir prosesu ad-daliadau.
Os na ellir cwblhau casgliad oherwydd y deunydd sy'n cynnwys canclwm Siapan, efwr enfawr, llysiau'r gingroen, rwbel pridd neu ardd neu ei fod wedi'i roi mewn man anhygyrch, ni roddir ad-daliad. Bydd angen i chi wneud trefniadau eraill ar gyfer cael gwared ar y gwastraff hwn.
Gellir ailgylchu’r holl wastraff gardd AM DDIM yn eich Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref. Cesglir gwastraff gardd fel toriadau gwair, toriadau gwrychoedd, chwyn, dail a blodau fel rhan o’n gwasanaeth casglu ymyl y ffordd bob pythefnos am ddim. Nid ydym yn casglu rhywogaethau ymledol fel Canclwm a Llysiau'r Gingroen.