Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dadorchuddio'r Cwricwlwm: Beth sy'n Newydd yng Nghanolfan Gymunedol Cwmpawd?

  • Emma Rowlands
  • 08 Gor 2024

Newyddion Sy'n Torri!

Helô, Emma ydw i, un o’r Tiwtoriaid yng Nghanolfan Gymunedol Cwmpawd. Rwy’n cipio’r blog i mi fy hun y mis hwn er mwyn rhoi newyddion cyffrous i chi…

 

Mae ein cwricwlwm newydd wedi cyrraedd a bydd yn eich tywys chi’r holl ffordd hyd ddiwedd y flwyddyn! Mae ein cwricwlwm newydd yn llawn bob dim sydd gennym i’w gynnig yng Nghanolfan Gymunedol Cwmpawd. Eleni rydym yn cyflwyno ystod newydd sbon o gyrsiau a gweithdai ynghyd â rhai o'n prif gyrsiau arferol.

 Yn y blog hwn byddaf yn amlygu rhai o’r goreuon i chi gael edrych ymlaen atynt.

 

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llen yma yng Nghwmpawd, er mwyn gallu cynnig ystod amryfal o gyrsiau a gweithdai a ddyluniwyd gyda CHI mewn golwg. Felly, dewch i ni gael edrych ar rai o’r uchafbwyntiau…

 

Gorffennaf – Dylunia dy Ddyfodol

 Newydd Sbon ar gyfer 2024

 Bydd y fersiwn gorau posib ohonot ti dy hun a bacha’r bywyd rwyt ti’n ei haeddu!

 Gyda chefnogaeth ein tiwtoriaid cymwynasgar, byddi di’n dechrau meddwl yn wahanol, byddi di’n dofi’r beirniad hwnnw sy’n byw yn dy ben ac yn datblygu’n berson neilltuol. Beth sy’n dy ddal di’n ôl?

 

 Awst – Hwyl i’r Teulu yng Nghanolfan Cwmpawd

 Ydych chi’n chwilio am ddigwyddiadau i’w gwneud gyda’r plant yr haf hwn, sy’n rhad ac am ddim? Mae’n ein rhaglen haf newydd sbon wedi ei llenwi â digwyddiadau gwych fydd yn denu’r rhai bach a mawr fel ei gilydd!

 

 Medi – Gwnïo a Phwytho – Cotiau i Gŵn

 Un arall newydd sbon ar gyfer 2024, gwnïwch ac addaswch eich côt ci eich hun! Dysgwch y sgiliau gwnïo sydd eu hangen arnoch er mwyn creu gwisg gaeaf newydd i’ch ffrind fflwffog. Alla i ddim aros i weld y cŵn bach golygus yna’n gwisgo’u cotiau arbennig!

 

Hydref - Saernïaeth – Creu Blwch Adar

 Ydych chi’n diddori mewn profi eich sgiliau a chreu blwch adar eich hunain? Bydd ein tiwtor medrus yn eich arwain chi drwy’r broses o dorri, adeiladu ac addurno eich blwch adar. Unwaith i chi wneud hynny, pwy a ŵyr beth fyddwch yn ei greu nesaf!

 

Tachwedd – Creu Bwydlen Nadolig Figan

 Chwilio am ysbrydoliaeth i roi bach o siglad i’ch cinio Nadolig? Yn y gweithdy hwn byddwch yn archwilio ryseitiau newydd a gwahanol ffyrdd o goginio er mwyn creu gwledd iachus a moesol i ddathlu’r ŵyl.

 

 Rhagfyr – Therapi Canu Nadoligaidd

 Mas o’r ffordd caroli!  Mae gweithdy Nadolig newydd wedi cyrraedd! Dangoswyd bod canu yn helpu’ch corff a’ch meddwl, felly ymunwch â ni i lawenhau mewn amgylchedd diogel a chroesawgar. Mae’r gweithdy hwn yn croesawu pawb, o feistr carioci i’r unawdydd canu-yn-y-gawod. Nid gallu canu sy’n bwysig fan hyn ond, yn hytrach, gwella'ch lles.

 Mae pob un o’n cyrsiau a’n gweithdai ar gael i’w mynychu’n rhad ac am ddim – waeth beth fo’ch sefyllfa. Mae Canolfan Gymunedol Cwmpawd yn ymdrechu i wella bywydau o fewn ein cymuned – ac mae hynny’n eich cynnwys chi!

 Ewch i wirio’r cwricwlwm llawn a joiwch yr ysbrydoliaeth a ddaw ohono. Dewch i un o’r cyrsiau neu’r gweithdai ac ymunwch â chymuned fywiog Canolfan Gymunedol Cwmpawd, gwnewch ffrindiau newydd, datblygwch sgiliau newydd, a byddwch y person hoffech chi fod. Gallwch ddilyn y ddolen isod i weld ein cwricwlwm llawn.

https://new.express.adobe.com/webpage/TpeWU2tw6PosL

 

 Gobeithio fy mod i wedi eich ysbrydoli chi i fynd i’r afael a rhai o’r cyrsiau a’r gweithdai sydd ar gael am ddim.

 Dilynwch ni ar Facebook neu cysylltwch am ragor o wybodaeth ynghylch yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Peidiwch ag anghofio rhannu hwn gyda’ch teulu a’ch ffrindiau – neu unrhyw un arall fydd yn diddori!

 

Gobeithiwn eich gweld chi yno! Tan toc…

 

Emma a gweddill tîm Canolfan Gymunedol Cwmpawd