Ar-lein, Mae'n arbed amser

Oes arnoch chi angen cyngor prynwr?

Mae cyngor prynwyr ar gael gan Wasanaeth Prynwyr Cyngor ar Bawb, fe gewch gyngor di duedd ar faterion sy’n effeithio ar brynwyr a hynny’n rhad ac am ddim. Mae llawer o wybodaeth a chyngor ar eu gwefan ynglŷn â’ch hawliau a sut mae dwyn achos.

Fe gewch chi gyngor ar y canlynol:

  • nwyddau diffygiol, nwyddau nad ydyn nhw’n gweithio, neu rai sydd wedi eu cam ddisgrifio
  • gwasanaethau nad ydyn nhw wedi eu cynnig gyda gofal rhesymol, mewn cyfnod amser rhesymol nac am bris derbyniol
  • yr hyn y dylech ei wneud os ydych chi’n meddwl eich bod wedi eich gwneud.

Os na chewch chi ateb eich problem ar y wefan, fe allwch chi gysylltu drwy gwblhau ffurflen ymholiadau ar lein neu drwy ffonio 0808 223 1133.

Mae Cyngor Defnyddwyr ar gael oddi wrth Wasanaethau Defnyddwyr Gwybodaeth ar Bopeth dros y ffôn neu ar-lein yn unig. Nid oes cyfleuster galw heibio yn y Ganolfan Ddinesig.

Os oes angen cyfeirio’r mater at sylw Safonau Masnach caiff hyn ei wneud yn electronig drwy Wasanaethau Cwsmer Cyngor ar Bopeth.  

Cyngor arall sydd ar gael

Mae Gwybodaeth Cyngor Prynwyr Ar Lein ar gael ar wefan Safonau Masnachu Cymru.