Ar-lein, Mae'n arbed amser

Eithriadau i Dreth Gyngor

A ddylai’ch eiddo gael ei ryddhau rhag talu’r Dreth Gyngor?

Mae rhai eiddo yn cael eu rhyddhau rhag talu’r Dreth Gyngor. Mae cyfyngiadau amser ar gyfer pa mor hir y gellir caniatáu rhai o'r eithriadau. Os ydych o’r farn y dylai eich eiddo gael ei ryddhau o’r Dreth Gyngor, cysylltwch â ni am gyngor am sut i wneud cais. Efallai y byddwn yn gofyn ichi ddarparu rhywfaint o dystiolaeth ategol ond byddwn yn dweud wrthych am hyn pan fyddwch yn siarad â ni.

Gall eiddo gael ei ryddhau o’r Dreth Gyngor os:

  • oes myfyrwyr yn preswylio ynddo
  • oes nam meddyliol difrifol gan yr holl breswylwyr
  • yw’r holl breswylwyr yn iau na 18 oed
  • yw’r eiddo yn atodiad at gartref teuluol ac mae perthnasau oedrannus neu anabl y teulu yn preswylio yno (gelwir yn ‘fflat mam-gu’ yn aml)
  • oes o leiaf un o’r bobl sy’n gymwys i dalu’r Dreth Gyngor yn ddiplomydd tramor
  • oes o leiaf un o’r bobl sy’n gymwys i dalu’r Dreth Gyngor yn aelod o lu sy’n ymweld
  • Yn cael ei feddiannu gan Ymadawr Gofal / Ymadawyr Gofal yn unig hyd at eu Pen-blwydd 25 oed

Gall eiddo gwag gael ei ryddhau o’r Dreth Gyngor os:

  •  Yw’n ofynnol ei fod yn cael, neu ei fod yn cael atgyweiriadau mawr neu ei fod yn ymgymryd ag addasiadau strwythurol (dim mwy na 12 mis) (defnyddiwch y ddolen ganlynol i wneud cais am eithriad Annedd Eithriedig)
  • Bod person yn preswylio yno a oedd yn gymwys am y Dreth Gyngor ond ei fod wedi marw ac nid yw llythyrau gweinyddiad na phrofeb wedi eu caniatáu eto yn dilyn y farwolaeth.
  • Dan berchnogaeth elusen
  • Heb ei ddodrefnu (am o leiaf 6 mis)
  • Wedi ei adael yn wag gan rywun sydd wedi mynd i’r carchar, canolfan gadw neu ysbyty diogel
  • Gadawyd yn wag gan rywun sydd wedi symud allan i ddarparu gofal personol i berson arall (Os yw'n berthnasol, cwblhewch y ffurflen ar-lein ar y ddolen ganlynol - Treth Gyngor - Hysbysiad o Dderbyniad i Gartref Gofal neu Ysbyty)
  • Yn wag oherwydd bod preswylio wedi ei wahardd yn gyfreithlon
  • Yw’n aros i weinidog yr efengyl breswylio ynddo
  • Mae wedi ei adael yn wag gan rywun sydd wedi symud allan i ddarparu gofal personol i berson arall
  • Mae o dan berchnogaeth myfyriwr ac mai myfyriwr oedd y preswylydd diwethaf
  • Mae wedi cael ei adfeddiannu
  • Mae'n gyfrifoldeb i ymddiriedolwr sydd wedi mynd yn fethdalwr
  • Mae'n safle ar gyfer carafán neu gartref symudol neu’n angorfan i gwch

Eiddo gwag hirdymor (Adran 12(A)) ac Ail-gartrefi sydd wedi'u meddiannu o bryd i'w gilydd / Ail gartrefi (Adran (12(B))

O dan reoliadau'r dreth gyngor, mae annedd wag (h.y. heb ei feddiannu a heb ei ddodrefnu) wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor am uchafswm o chwe mis o'r diwrnod y daeth yn wag. DS Mae cyfnod yr eithriad yn dechrau o'r dyddiad y daeth yn wag waeth beth fo unrhyw newidiadau mewn atebolrwydd neu berchnogaeth.

Ystyrir bod eiddo yn 'wag yn y tymor hir' unwaith y bydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis (neu 12 mis os oes angen atgyweirio sylweddol hefyd) ac nid yw'n gymwys i gael dosbarth arall o eithriad o'r Dreth Gyngor.

Ers 1 Ebrill 2017, mae newidiadau deddfwriaethol a wnaed o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi rhoi pwerau dewisol i awdurdodau lleol yng Nghymru godi premiwm o hyd at 100% ar ben cyfradd safonol y dreth gyngor ar anheddau ac anheddau gwag tymor hir a anheddau sy'n cael eu meddiannu o bryd i'w gilydd (y cyfeirir atynt yn fwy cyffredin fel ail gartrefi yn eu hardal,  ac o 1 Ebrill 2023, bydd Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Anheddau ac Anheddau Gwag Hirdymor a Anheddau a Feddiannir o bryd i'w gilydd) (Cymru) 2022 yn caniatáu i awdurdod lleol bennu lefelau premiwm hyd at 300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024 a'r blynyddoedd dilynol.

Mae Deddf 2014 yn diwygio Deddf 1992 drwy fewnosod Adrannau 12(A) a 12(B) newydd i alluogi awdurdod bilio (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) yng Nghymru i ddatgymhwyso unrhyw ostyngiad a roddir i anheddau ac anheddau gwag hirdymor a anheddir o bryd i'w gilydd a chymhwyso swm uwch o dreth gyngor (premiwm).

Gall awdurdod bilio wneud, amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan Adrannau 12(A) a 12(B) o Ddeddf 1992, ond dim ond cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r dyfarniad yn gymwys iddi.

Gweler  tudalen Premiymau Treth y Cyngor am ragor o wybodaeth

 

Gwneud cais am ryddhad

Ar gyfer myfyrwyr a’r sawl sydd â nam meddyliol difrifol gallwch wneud cais ar-lein: Mynediad at eich cyfrif Treth Gyngor eich hun ar-lein.

Nodir: tra'ch bod yn aros i glywed canlyniad cais am eithriad, mae rhaid i chi barhau i dalu'ch bil cyfredol, os ydych chi'n ei chael hi'n anodd mae rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith.

Ar ôl caniatáu rhyddhad

Os yw cost y Dreth Gyngor yn cael ei ostwng caiff bil newydd ei gyflwyno sy’n dangos faint i’w dalu.

Os gafodd rhyddhad ei ganiatáu, byddwn yn gwirio o bryd i’w gilydd i weld a ddylai barhau yn cynnwys gwiriadau gyda sefydliadau allanol fel asiantaethau credyd. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth sy’n ein helpu ni i wneud hyn. Gall methu â darparu’r wybodaeth hon olygu fod y rhyddhad yn cael ei ganslo.

Cofiwch os yw’r amgylchiadau sy’n berthnasol i’r rhyddhad yn newid mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith.

Gwneud Cais