Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diogelwch y Gymuned
Partneriaeth aml-asiantaeth yw Bwrdd Diogelwch Cymunedol Cwm Taf sy’n gweithio ar y cyd i leihau troseddu, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Bwrdeistrefi Sirol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae'r Bwrdd yn ymrwymedig i wneud y fwrdeistref yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld.
Unwyd y Bwrdd Cydweithredol Rhanbarthol a'r Byrddau Gwasanaethau Lleol blaenorol yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful i ffurfio bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sengl (PSB/BGC) i gyflawni amcanion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru); ac mae'n cynnwys partneriaid statudol a sefydliadau sector gwirfoddol.
Mae’r Partneriaid Statudol yn cynnwys;
- Heddlu De Cymru
- Awdurdod Heddlu De Cymru
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Awdurdod Tân De Cymru
- Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
- Gwasanaeth Prawf Cymru
Mae cylch gorchwyl presennol Bwrdd Diogelwch Cymunedol Cwm Taf yn cynnwys yr holl faterion sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol a lleihau troseddu yng Nghwm Taf gyda ffocws arbennig ar y meysydd thematig allweddol canlynol:
a) Gostwng Troseddu ac Anhrefn
b) Rheoli Troseddwyr
c) Camddefnyddio Sylweddau
(ch) Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
(d) Cydlyniant Cymunedol
(dd) Gwrthderfysgaeth
Mae cynnwys sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol hefyd yn hanfodol os yw’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i weithio i'w llawn botensial.
Am gymorth â cham-drin cyffuriau ac alcohol ewch i wefan DASPA neu ffoniwch DASPA ar 0330 333 0000.
Lleihau Troseddu ag Anrhefn/Atal Terfysgaeth- ffoniwch 999 mewn argyfwng neu 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys.
Cymorth lleol i ddioddefwyr gwrywaidd a benywaidd a chyflawnwyr, a chymorth i blant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig ar gael drwy Ganolfan Amlasiantaethol (MAC) Teulu (MAC/ GAT): 01685 387172.
Ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â chydlyniant cymunedol – cysylltwch â’r Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, Amy Jones 01685 725000.