Ar-lein, Mae'n arbed amser

Eiddo Preswyl Gwag

Dros y ddegawd ddiwethaf mae’r broblem o dai gwag wedi dod i amlygrwydd ar lefel genedlaethol a lefel leol.

Ym Merthyr Tudful, fe wnaeth arolwg a gynhaliwyd yn 2009 ddangos 514 o gartrefi a gafodd eu dosbarthu fel eiddo gwag hirdymor. Caiff eiddo gwag hirdymor ei ddiffinio fel rhywle sydd wedi bod yn wag ers 6 mis neu fwy. O’r nifer hwnnw, canfuwyd bod 169 eiddo’n adfeilion, wedi’i esgeuluso a/neu angen atgyweirio.

Mae cartrefi gwag problematig hirdymor yn achos pryder sylweddol. Maen nhw’n cynrychioli gwastraff, cost ariannol a chyfleoedd sy’n cael eu colli. Maen nhw’n amddifadu’r rheini sydd angen tai o gartrefi, sy’n bryder neilltuol yn yr hinsawdd economaidd presennol. Maen nhw’n gallu achosi malltod mewn cymunedau, yn denu fandaliaid a sgwatwyr ac yn draul ar adnoddau awdurdodau lleol a’r gwasanaethau brys. Mae ailddefnyddio cartrefi gwag yn ffordd gynaliadwy o ddiwallu galw am dai yn y dyfodol ac yn helpu i leihau pwysau i ddatblygu safleoedd maes glas. Gall byw y tŷ nesaf i eiddo gwag ddibrisio cartref hyd at 10%. Mae’r Asiantaeth Cartrefi Gwag yn amcangyfrif petai dim ond 2% o’r cartrefi sector preifat gwag yn cael eu hadfer i’w defnyddio unwaith eto y byddai’r refeniw dros £50 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn adnodd anferth sy’n cael ei wastraffu – o safbwynt perchnogion unigol a chymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Mae’r tîm Diogelu Amgylcheddol a Gorfodi Tai yn cadw cronfa ddata o bob eiddo gwag o fewn y Fwrdeistref Sirol ac mae ganddo Strategaeth Cartrefi Gwag, sy’n eu galluogi nhw i fynd i’r afael yn rhagweithiol â thai gwag. Maen nhw hefyd yn ymateb i gwynion niferus yn ymwneud â thai gwag ac yn cymryd camau priodol yn erbyn perchnogion lle bo angen hynny. Gallai camau o’r fath olygu:

  • Cael hyd i berchnogion yr eiddo
  • Diogelu eiddo y gellir mynd i mewn iddo
  • Glanhau gwastraff a gordyfiant o erddi
  • Trin i gadw llygod mawr draw

Os oes gennych chi bryderon ynghylch eiddo gwag neu angen cyngor neu wybodaeth bellach, defnyddiwch y ffurflen gysylltu â ni ar ochr y dudalen hon.

Cysylltwch â Ni