Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cofrestru ar gyfer Tai Cymdeithasol

Os ydych yn diddori mewn rhentu eiddo tai cymdeithasol cymunedol, neu os ydych eisoes yn rhentu oddi wrth landlord tai cymdeithasol cymunedol a bod angen ichi symud i eiddo gwahanol, gallwch wneud cais i ymuno â'r gofrestr dai.

Er mwyn cychwyn ar y broses ymgeisio, ewch at y wefan ganlynol www.livingmerthyrtydfil.org.uk. Cwblheir ffurflenni cais ar-lein, a bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestri lawn a’r ffurflen gais tai cymdeithasol.

Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich ffurflen gais tai, gallwch fynd i Hwb Canol y Dre yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful. Mae cefnogaeth ar gyfer tai ar gael yn yr Hwb ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 10:00am a 3:00pm, ac ar ddydd Gwener rhwng 10:00am a 3:00pm. Nid oes cyngor am dai ar gael yn yr Hwb ar ddydd Iau.

Gallwch hefyd ffonio 01685 725000 a gofyn i siarad â’r tîm Datrys Tai er mwyn derbyn cyngor ynghylch eich cais tai. Ewch i’r Ganolfan Ddinesig os oes gennych ymholiadau brys ynghylch digartrefedd neu os hoffech gyngor ynghylch sut i osgoi digartrefedd.

Gwybodaeth bellach: